Neidio i'r prif gynnwy

Cwestiynau Cyffredin ESR

 

Newidiadau Hierarchaeth

Rwyf wedi mewngofnodi ar fy ESR ac nid oes unrhyw un o fy staff yn ymddangos oddi tanaf er mwyn i fi allu cymeradwyo absenoldeb, salwch, prosesu AGDPau ac ati.

Mae angen i'r rheolwr gyflwyno'r cais i ni ynghyd ag enw'r gweithiwr a'i rif Cyflogres. Mae arnom hefyd angen Rhif Gweithiwr, bwrdd Iechyd a chyfeiriad e-bost y rheolwyr.

Yna dylid ei frysbennu i’r tîm lleol.

Ymddeol a Dychwelyd

Rwyf wedi ymddeol ac wedi dychwelyd ac yn methu â gweld fy slipiau cyflog. Sut mae gweld fy slipiau cyflog?

Ers i chi ymddeol a dychwelyd bydd eich cyfrif ESR wedi cael ei gau i lawr. Byddwch wedi cael neges ar ESR i argraffu eich slipiau cyflog cyn i chi ymddeol.

I gael eich slipiau cyflog, bellach bydd angen i chi gysylltu â'r Gyflogres.

Rwyf wedi ymddeol ac wedi dychwelyd ac yn methu â mynd i mewn i ESR. A allwch chi helpu?

Gan eich bod wedi ymddeol, ni fydd eich hen gyfrif yn weithredol mwyach a dylai cyfrif newydd fod wedi'i greu ar eich cyfer. Os na wnaed hyn, bydd angen i'ch rheolwr lenwi ffurflen gais ar gyfer defnyddiwr newydd.

Slipiau cyflog

Rwy'n cael neges "error" wrth geisio gweld fy slipiau cyflog?

Gofynnwch i'r sawl sy'n gwneud cais a allwch fewngofnodi gyda’u manylion nhw. Gwiriwch a ydych chi'n cael yr un neges “error”. Os nad ydych chi’n cael yr un neges “error”, bydd hyn yn golygu bod rhywfaint o’u meddalwedd ar goll neu wedi dyddio ac mae angen ei diweddaru/ychwanegu at eu cyfrifiadur personol/gliniadur. Cysylltwch â’r adran Technoleg Gwybodaeth.

Sut mae cael gafael ar fy slipiau cyflog trwy ESR?

Bydd angen iddynt ddod o hyd i “My Payslip” ar hafan Porth ESR gan ddewis “View My Payslips”. Yna dylent ddewis View Payslip, ac “open” ar y ffenestr naid a fydd yn ymddangos ar waelod eu tudalen.