Neidio i'r prif gynnwy

Archwilwyr Meddygol

Mae Archwilwyr Meddygol yn cwblhau’r broses graffu dri cham ar bob marwolaeth na chaiff ei chyfeirio’n uniongyrchol at Grwner.

Drwy graffu yn gymesur ar nodiadau clinigol, trafodaethau â’r Ymarferydd Cymwys fu’n Bresennol, ar ran y tîm clinigol a wnaeth drin y claf cyn y farwolaeth, a thrafodaethau â’r rhai mewn profedigaeth, maent yn dilysu gwybodaeth glinigol ar Dystysgrifau Meddygol o Achos Marwolaeth ac yn sicrhau bod cyfeiriadau’n cael eu gwneud at y Crwner neu at y sefydliad gofal priodol ar gyfer ymchwiliad pellach lle bo hynny’n briodol.

Gallai’r Archwilydd Meddygol ddirprwyo awdurdod i’r Swyddogion Archwilio Meddygol er mwyn cydweithio â thimau clinigol a’r rhai mewn profedigaeth fel rhan o’r broses graffu, ond maent yn gyfrifol o hyd am gwblhau’r camau gofynnol i gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth yn ymwneud ag ardystio marwolaethau a’r prosesau perthynol.