Neidio i'r prif gynnwy

Pwy all fod yn Archwilydd Meddygol?

Gall unrhyw ymarferydd meddygol sy’n ymarfer neu sydd wedi ymddeol yn ddiweddar, ac sydd wedi cofrestru’n llawn am o leiaf bum mlynedd ac sydd â thrwydded i ymarfer gyda’r Cyngor Meddygol Cyffredinol, wneud cais i fod yn Archwilydd Meddygol. Mae’r Archwilydd Meddygol Cenedlaethol yn argymell y dylai Archwilwyr Meddygol fod yn feddygon ymgynghorol neu’n feddygon teulu sydd â lefel gyfatebol o brofiad, ac sydd wedi cwblhau Modiwlau Hyfforddiant Archwilio Meddygol Coleg Brenhinol y Patholegwyr. Ni all gweithwyr anfeddygol gyflawni rôl yr Archwilydd Meddygol.

Mae Gwasanaeth Archwilio Meddygol Cymru hefyd yn gwerthuso arferion parhaus drwy Fframwaith Cymhwysedd Archwilio Meddygol sydd wedi’i ddatblygu’n benodol.

Mae’n arferol i Archwilwyr Meddygol weithio nifer benodol o sesiynau bob wythnos ac, er bod nifer y sesiynau dan gontract yn hyblyg, mae’r rhan fwyaf o Archwilwyr Meddygol yn tueddu i gwblhau rhwng 1 a 3 sesiwn bob wythnos.