Neidio i'r prif gynnwy

Pwy all fod yn Swyddog Archwilio Meddygol?

Efallai y bydd gan Swyddog Archwilio Meddygol gefndir clinigol, neu efallai na fydd ganddo gefndir clinigol, ond mae’n debygol y bydd ganddo/ganddi brofiad mewn rôl sy’n ymwneud â chleifion neu gwsmeriaid ac o weithio naill ai mewn systemau ardystio marwolaethau cyfredol, neu mewn lleoliad clinigol neu’r GIG.

Mae natur y rôl yn gofyn am ddealltwriaeth o gofnodion meddygol a phatholeg clefydau, a gallu i roi cyngor ar derminoleg glinigol ac achosion marwolaethau. Yn ogystal, mae angen gallu esbonio’r rhain, a barn a rhesymeg yr Archwilydd Meddygol, i swyddogion y Crwner, meddygon a’r rhai heb unrhyw ddealltwriaeth feddygol. Mae hyn yn gofyn am sgiliau rhyngbersonol cryf a bod yn gyfforddus yn gweithio gyda phobl yn dilyn profedigaeth.

Gall Swyddogion Archwilio Meddygol ddod o unrhyw gefndir gweithio, ond mae gofyn iddynt gwblhau’r sesiynau e-ddysgu craidd a hyfforddiant wyneb yn wyneb a ddarperir gan Goleg Brenhinol y Patholegwyr cyn gwneud cais. Yn ogystal, mae Gwasanaeth Archwilio Meddygol Cymru hefyd yn gwerthuso arferion parhaus drwy Fframwaith Cymhwysedd Swyddogion Archwilio Meddygol sydd wedi’i ddatblygu’n benodol.