Neidio i'r prif gynnwy

Gweithio inni

working for us

Fel gwasanaeth caffael sefydledig sy’n cefnogi’r gwaith o ddosbarthu nwyddau a gwasanaethau i GIG Cymru, rydym yn cydnabod yr angen am safonau a chymwysterau proffesiynol yn ein maes. Rydym yn cefnogi cynnydd y cymwysterau hyn trwy Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi (CIPS).

CIPS; corff proffesiynol byd eang sy’n helpu sefydliadau i ragori ym maes   caffael a chyflenwi. Y nod yw “hyrwyddo a datblygu, er lles y cyhoedd, grefft a gwyddor prynu a chyflenwi ac hyrwyddo a datblygu gwell dulliau o brynu a chyflenwi ymhob sefydliad. Nod arall yw hyrwyddo a chynnal, er lles y cyhoedd, safonau uchel o fedrusrwydd, gallu, ac uniondeb ymhlith y rhai sy’n ymwneud â phrynu a chyflenwi ac addysgu’r rhai sy’n ymwneud â’r arfer o brynu a chyflenwi a, trwy arholiadau a dulliau eraill o asesu, brofi sgiliau a gwybodaeth y rhai sydd am ymuno â’r Sefydliad”.

Rydym yn ymrwymedig i ddatblygu’n staff ni ac rydym yn cefnogi cynnydd ein staff bob blwyddyn gyda lefelau gwahanol cymwysterau CIPS. Ein nod yw meddu ar weithlu medrus, ymroddedig a phroffesiynol.

Rydym yn cydnabod fodd bynnag, er mwyn denu pobl ddawnus o feysydd eraill, y bydd gan bobl sgiliau trosglwyddadwy y byddant wedi eu dysgu trwy brofiad a chymwysterau eraill, ac y gellir mapio’r rhain ar fodiwlau presennol CIPS. Os nad yw’r cymhwyster priodol gennych sydd wedi ei nodi ym manyleb y person, rydym wedi llunio meini prawf paru i’ch helpu i gwblhau’r cais.

Rydym yn annog pobl sy’n angerddol am weithio i wasanaethau caffael, cyfrannu at effeithiolrwydd gwasanaethau yn GIG Cymru ac arbed arian i ymuno â’n tîm.

Rydym am glywed gan bobl sydd am wneud gwahaniaeth. Mae ein maes yn newid yn barhaus. Rydym ar flaen y gad ledled Cymru, y DU, Ewrop a’r Byd pan ddaw i gydweithio. Rydym yn arwain prosiectau arloesol nad yw’r un sefydliad arall yn gweithio arnynt - rhaid i bob cynnyrch, gwasanaeth neu nwydd gael ei ganfod, ei brynu a’i gyflenwi er budd gorau’r claf - ni yw dyfodol cynaliadwy, effeithlon ac arloesol GIG Cymru. Mae angen pobl arnom sydd am gymryd rhan mewn llunio’r dyfodol hwn.

 

Am swyddi, ewch i http://jobs.nwssp.wales.nhs.uk/