Neidio i'r prif gynnwy

Gweithio i ni

Ein cefndir

Ym mis Mai 2009, comisiynodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol astudiaeth ymchwil i’w chynnal gan yr Ysgol Reolaeth ym Mhrifysgol Caerfaddon i adolygu modelau arferion gorau ar gyfer cydwasanaethau ledled y DU ac yn rhyngwladol, ac i gasglu adborth manwl gan randdeiliaid ledled Cymru.

Lluniwyd papur ymgynghori i gynnig newidiadau i strwythur GIG Cymru i gynnwys darpariaeth ar gyfer Partneriaeth Cydwasanaethau Cymru. Roedd achos busnes y Bartneriaeth Cydwasanaethau yn canolbwyntio ar yr angen i gyflawni darbodion maint; effeithlonrwydd a chysondeb ansawdd a phroses ar gyfer y gwasanaethau busnes a phroffesiynol a oedd yn cael eu rheoli a’u cyflawni’n uniongyrchol gan gyrff lleol y GIG. O ganlyniad, sefydlwyd Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) ym mis Tachwedd 2010 ac aeth yn fyw ym mis Ebrill 2011. Ers hynny, mae PCGC wedi datblygu’n sylweddol ac wedi parhau i wella ac addasu; gan ehangu ar ein hystod o wasanaethau o flwyddyn i flwyddyn.

 

Sicrhau Gwerth, Arloesedd a Rhagoriaeth drwy Bartneriaeth

Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) yn darparu ystod eang o wasanaethau proffesiynol, technegol a gweinyddol o safon uchel i GIG Cymru gan weithio gyda gwasanaethau cyhoeddus ehangach a Llywodraeth Cymru yn eu plith. Rydym yn rhan annatod o deulu GIG Cymru ac yn cynorthwyo staff a chleifion y Byrddau Iechyd, yr Ymddiriedolaethau a’r Awdurdodau Iechyd arbennig yng Nghymru. Rydym hefyd yn darparu ystod o wasanaethau i bractisiau meddygon teulu, deintyddion, optegwyr, a fferyllfeydd cymunedol.

 

Ein Gwerthoedd

 
NWSSP Working Together Icon. This displays two people carrying cogs on their back, working together.  Gweithio gyda’n gilydd

Gyda chydweithwyr, cwsmeriaid a chyflenwyr.

Arloesi

Bod yn ddewr a chreadigol trwy welliant parhaus.

NWSSP Listening and Learning icon. This displays two individuals talking to one another. one listening and the other talking. Gwrando a Dysgu

Ystyried yn barhaus a gwella ansawdd ac effeithiolrwydd popeth a wnawn.

 

Cymryd Cyfrifoldeb

Am benderfyniadau dewr a thosturiol a gwneud i’r pethau iawn ddigwydd.

Rhannu: