Neidio i'r prif gynnwy

Fiona Webber

Daeth Fiona yn Gyfreithiwr cymwys yn 1999.

Astudiodd Fiona am ei gradd LLB ym Mhrifysgol Caerdydd. Yna cafodd Ddiploma mewn Ymarfer Cyfreithiol. Ar hyn o bryd, mae Fiona’n astudio ar gyfer cymhwyster rheoli ILM (lefel 4).

Dechreuodd Fiona ei chytundeb hyfforddi gyda’r Swyddfa Gymreig cyn symud i’r gwasanaethau Cyfreithiol a Risg i gwblhau ei chyfnod o hyfforddiant cydnabyddedig. Bellach, mae hi’n gweithio yn y tîm Esgeuluster Clinigol, ac mae’n arweinydd tîm ar gyfer Tîm Cleient 2. Mae hi’n aelod o’r tîm hawliadau gwerth uchel, ac mae’n arbenigo mewn hawliadau anafiadau genedigaeth gwerth uchel a hawliadau orthopaedeg gwerth uchel.

Yn ei hamser rhydd, mae Fiona’n mwynhau treulio amser gyda’i theulu, darllen, nofio a sgïo.