Neidio i'r prif gynnwy

Thomas Toyne

Enillodd Thomas ei radd LLB yn y Gyfraith a Chwrs Ymarfer y Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd, a chymhwysodd fel Cyfreithiwr ym mis Ionawr 2016.

Dechreuodd Thomas weithio i’r GIG fel Ymchwilydd Arbennig, gan ymdrin â hawliadau am gyllid gofal Iechyd Parhaus y GIG.  Yna symudodd i Wasanaethau Cyfreithiol a Risg fel paragyfreithiwr cyn sicrhau ei gontract hyfforddi yn 2014.

Mae Thomas yn gweithio yn y tîm Esgeulustod Clinigol, gan ymdrin â hawliadau a ddygir yn erbyn Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol yn bennaf. Mae Thomas yn delio ag amrywiaeth o hawliadau, gan gynnwys achosion orthopaedeg gwerth uchel, anafiadau i’r asgwrn cefn, anafiadau i’r ymennydd, ac achosion seiciatrig.

Mae Thomas hefyd yn rhan o’r Tîm Cleifion Cymhleth (Llys Gwarchod). Mae gan Thomas brofiad yn cynrychioli cleientiaid mewn gwrandawiadau llys a ymleddir ynghylch Hawliadau Amddifadu o Ryddid. Mae gan Thomas gryn ddiddordeb yn y weithdrefn Re-X ac mae’n rheoli nifer o’r achosion hyn.

Mae Thomas hefyd yn cael cyfarwyddyd rheolaidd i gynghori a darparu eiriolaeth mewn cwestau sy'n ymwneud ag ystod o faterion, gan gynnwys adnoddau, iechyd meddwl a phryderon hawliau dynol.

Mae gan Thomas rôl allweddol wrth gydlynu cylchlythyr esgeulustod clinigol chwarterol Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg ac mae hefyd yn darparu sesiynau hyfforddi i’r GIG ar bynciau megis tordyletswydd ac achosiaeth, cydsyniad, a rhoi tystiolaeth fel tyst. Fel aelod o’r Pwyllgor Cymdeithasol, mae Thomas hefyd yn mwynhau trefnu digwyddiadau cymdeithasol i staff Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg.

Magwyd Thomas yn Wiltshire ond symudodd i Gaerdydd i astudio ac mae wedi aros yma ers hynny. Yn ystod ei oriau hamdden mae’n mwynhau bwyta allan, chwarae tennis a mynd i’r gampfa (yn achlysurol).