Neidio i'r prif gynnwy

Alison Walcot

Daeth Alison yn Gyfreithiwr cymwys yn 1997.

Astudiodd Alison yng Ngholeg Prifysgol Meddygaeth, gan ddechrau ei gyrfa fel deintydd/ llawfeddyg yr ên a’r wyneb, a gweithio fel ymarferydd deintyddol cyffredinol ac aelod iau o dîm yr ên a’r wyneb mewn ysbytai yn Ne Cymru a De Lloegr. Ymunodd â’r adran Gyfreithiol a Risg yn 1995.

Mae gan Alison brofiad helaeth mewn achosion o esgeuluster clinigol, gan gynnwys achosion gwerth uchel a gweithredoedd grŵp mawr, yn dilyn ei rhan yn Hawliadau Cadw Organau Cymru. Hefyd, mae ganddi brofiad helaeth o ymchwilio i ddigwyddiadau difrifol a rhoi cyngor ar faterion llywodraethu clinigol. Mae ganddi ddiddordeb mewn deintyddiaeth o hyd, ac mae hi ynghlwm â hyfforddi gweithwyr proffesiynol iechyd deintyddol ar faterion cyfreithiol, ac mae hi hefyd yn rhoi cyngor ar faterion sy’n codi ynghylch ymarfer deintyddol cyffredinol a hawliadau deintyddol. Mae hi’n gweld bod ei gwybodaeth arbenigol yn ddefnyddiol dros ben pan fydd hi’n ymdrin â hawliadau sy’n codi o driniaeth i’r pen a’r gwddf – maes sydd o ddiddordeb penodol iddi.

Mae gan Alison ddiddordeb, hefyd, mewn ymdrin â chostau cyfreithwyr, a hi sy’n arwain y tîm Costau ac yn mynd i wrandawiadau Asesiadau Manwl yn aml, i geisio lleihau atebolrwydd cost y GIG.