Neidio i'r prif gynnwy

Carrie Mussell

Cymhwysodd Carrie yn gyfreithiwr yn 2019.

Enillodd hi Radd mewn Gwyddoniaeth Fiofeddygol gyda Thocsicoleg Fforensig yn 2008 cyn cwblhau'r Diploma Cyffredinol yn y Gyfraith a'r Cwrs Ymarfer y Gyfraith ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr.

Cyn cychwyn ar yrfa yn y Gyfraith, bu Carrie yn gweithio ym maes datblygu busnes a buodd yn berchen ar ei busnes ei hun am nifer o flynyddoedd. Cwblhaodd Carrie ei Chontract Hyfforddi mewn cwmni preifat ym Mryste cyn dechrau ar ei gyrfa yng Ngwasanaethau Cyfreithiol a Risg ym mis Medi 2019 fel Cyfreithiwr yn yr adran Esgeulustod Clinigol.

Yn ei hamser hamdden, mae Carrie yn mwynhau mynd â’i chi am dro a threulio amser ar lan y môr. Mae hi hefyd yn mwynhau cadw'n heini ac yn rhedeg yn rheolaidd i godi arian at elusennau.