|
Bydd yr hyfforddiant yn cael ei gynnal ar-lein gan Dîm y Llys Gwarchod, Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg PCGC, ddydd Mercher 18 Tachwedd rhwng 10am a 5pm a bydd yn cynnwys sesiwn holi ac ateb. Mae'r Llys Gwarchod yn amgylchedd sy'n newid yn gyson. Bydd gan yr achosion y byddwn yn eu trafod yn y digwyddiad hyfforddi hwn oblygiadau ymarferol ar gyfer ymarfer o ddydd i ddydd yn y GIG. Mae'r sesiwn hon yn agored i bawb ond fe'i hargymhellir yn arbennig ar gyfer Cyfarwyddwyr Clinigol neu arweinwyr adrannau eraill a allai fod angen sicrhau bod staff wedi'u hyfforddi'n ddigonol neu wedi'u diweddaru ar gydymffurfedd da â’r Ddeddf Galluedd Meddyliol a gofynion ynghylch gwneud ceisiadau i'r Llys. Gallwch weld yr agenda yma (GIG Cymru): Digwyddiad Bydd y papurau ar gael cyn y diwrnod. Byddant ar gael drwy Safle Sharepoint Tîm COP. Os bydd gennych gwestiynau cyn y digwyddiad, cysylltwch â ni yma. |