Neidio i'r prif gynnwy

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau yn y Gymraeg.
Ni fydd ymgysylltu gyda ni yn y Gymraeg yn arwain at oedi.

Presgripsiynau electronig ar gyfer fferylliaeth gymunedol

Mae'r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) mewn gofal sylfaenol yn caniatáu i feddygon teulu a rhagnodwyr eraill anfon presgripsiynau yn electronig i ddosbarthwr o ddewis y claf. Mae'n lleihau ein defnydd o bapur ac yn gwneud y broses rhagnodi a dosbarthu yn haws ac yn fwy cyfleus i gleifion a staff iechyd.

Mae EPS yn wasanaeth digidol diogel a dim ond gweithwyr iechyd proffesiynol sydd wedi'u hawdurdodi i'w ddefnyddio all gael mynediad ato. Nid yw'n system presgripsiynau clinigol ond fe'i defnyddir i reoli llif gwaith presgripsiynau o'r presgripsiynydd i'r dosbarthwr.

Mae EPS yn wasanaeth meddyginiaethau digidol newydd a ddarperir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) mewn cydweithrediad â Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.

Dysgwch ragor yma, ynghyd â’r manteision y mae’n eu cynnig i fferylliaeth gymunedol ac arweiniad a chymorth ar ddefnyddio’r gwasanaeth.

Mae EPS yn caniatáu i fferyllwyr cymunedol dderbyn presgripsiynau yn electronig gan bresgripsiynwyr ac yn galluogi dosbarthwyr i wneud y canlynol:  

  • rhyddhau a gwirio presgripsiynau
  • dychwelyd presgripsiynau
  • anfon a diwygio hysbysiadau dosbarthu
  • tynnu hysbysiadau dosbarthu yn ôl
  • anfon a diwygio hawliadau dosbarthu