Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau yn y Gymraeg.
Ni fydd ymgysylltu gyda ni yn y Gymraeg yn arwain at oedi.
Mae'r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) mewn gofal sylfaenol yn caniatáu i feddygon teulu a rhagnodwyr eraill anfon presgripsiynau yn electronig i ddosbarthwr o ddewis y claf. Mae'n lleihau ein defnydd o bapur ac yn gwneud y broses rhagnodi a dosbarthu yn haws ac yn fwy cyfleus i gleifion a staff iechyd.
Mae EPS yn wasanaeth digidol diogel a dim ond gweithwyr iechyd proffesiynol sydd wedi'u hawdurdodi i'w ddefnyddio all gael mynediad ato. Nid yw'n system presgripsiynau clinigol ond fe'i defnyddir i reoli llif gwaith presgripsiynau o'r presgripsiynydd i'r dosbarthwr.
Mae EPS yn rhan allweddol o raglenni Meddyginiaethau Digidol gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru, sy’n sicrhau manteision dull presgripsiynu digidol llawn ym mhob lleoliad gofal yng Nghymru. Mae EPS yn cael ei ddarparu mewn cydweithrediad â Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.
Dysgwch ragor am y manteision i bresgripsiynwyr, ynghyd ag arweiniad a chymorth ar ddefnyddio'r gwasanaeth.
Treulio llai o amser yn delio â phresgripsiynau
Gwell rheolaeth dros bresgripsiynau