Neidio i'r prif gynnwy

Cwblhau'r WP34C

Mae gan yr WP34C 3 adran wahanol. Maent fel a ganlyn –

  • Rhan 1 Manylion ac awdurdodi’r contractwr ;
  • Rhan 2 Cyflwyniadau
  • Rhan 3 Datganiad

Rhan 1 – Manylion ac awdurdodi’r contractwr

Dylech wneud y canlynol:

  1. Cynnwys stamp y fferyllfa yn y man priodol
  2. Llofnodi a dyddio’r WP34C

Rhan 2 – Cyflwyniadau

1.Nifer y ffurflenni/eitemau ym mhob grŵp fel y disgrifir isod.

  1. Presgripsiynau lle na thalwyd costau’r claf (gan gynnwys presgripsiynau sydd wedi eu rhoi ar 1 Ebrill 2007 neu ar ôl hynny gyda cherdyn hawliau cyfradd Cymru), gan gynnwys ffurflenni ad-dalu.
  2. Presgripsiynau lle y talwyd am gostau’r claf.

Sylwch: Mewnosodwch gyfanswm y ffigurau ar gyfer yr holl bresgripsiynau a gyflwynwyd, gan gynnwys ffurflenni a gafodd eu hailgyflwyno. 
(Dylid gadael unrhyw flychau na fyddwch yn eu defnyddio yn yr adran hon yn wag h.y. ni ddylid rhoi croes drwyddynt mewn unrhyw fodd)

2. NID yw nifer y ffurflenni/eitemau ar gyfer presgripsiynau cyffuriau rheoledig preifat yn berthnasol i gontractwyr dyfeisiau

3. NID yw nifer y ffurflenni archebu cyffuriau rheoledig yn berthnasol i gontractwyr dyfeisiau

4. Ffurflenni Awdurdodi Amlroddadwy wedi eu cyflwyno.  (nodwch drwy dicio’r blwch – nid oes rhaid nodi nifer y ffurflenni a gyflwynwyd).

Rhan 3 – Datganiad

Mae’r meysydd i’w cwblhau yma yn cynnwys:

  • Y mis y mae’r presgripsiynau yn berthnasol iddo
  • Rhif y cyfrif
  • NID yw cyfanswm oriau gwaith y staff fferyllol yn berthnasol i gontractwyr dyfeisiau.

Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r datganiad, plygwch y ffurflen WP34C yn chwarteri ar hyd y llinellau sydd wedi eu marcio ar y ddogfen ei hun, fel y gellir gweld enw/cyfeiriad y presgripsiynydd ar y brig. Yna, dylid gosod y datganiad ar frig y ffurflenni a gaiff eu cyflwyno i Wasanaethau Presgripsiynu.

Noder nad ydym yn anfon copïau o’r ffurflenni WP34C yn fisol mwyach, ond gallwch eu lawrlwytho one from this site. If you have any issues downloading the WP34C please contact the Helpdesk on 02920 904030 or email prescribing.management@wales.nhs.uk.

 

Dogfennau


pdf icon
 

Ffurflen WP34C