Neidio i'r prif gynnwy

Olrhain Cysylltiadau

woman getting tested for covid-19

 

Beth yw olrhain cysylltiadau?

Mae olrhain cysylltiadau yn ddull profedig o reoli lledaeniad afiechydon heintus. Mae'r strategaeth yn cael ei darparu trwy wasanaeth Profi Olrhain Diogelu GIG Cymru.

 

Sut mae’n gweithio?

Os ydych wedi profi'n bositif am coronafeirws (COVID-19), bydd gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu GIG Cymru yn cysylltu â chi dros y ffôn. Gofynnir i chi ble rydych chi wedi bod yn ddiweddar a gyda phwy rydych chi wedi bod mewn cysylltiad agos â nhw. Bydd hyn yn helpu gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu GIG Cymru i gysylltu ag unrhyw un a allai fod wedi dal y feirws gennych chi.

Mae cyswllt yn golygu unrhyw un yr ydych wedi bod yn agos ato ar unrhyw achlysur yn ystod cyfnod sy'n dechrau hyd at ddau ddiwrnod cyn i’ch symptomau ddechrau, gan gynnwys:

  • Rhywun o fewn 1 metr i chi yr ydych wedi cael sgwrs wyneb yn wyneb â fe/hi, wedi cael cysylltiad corfforol croen-i-groen, yr ydych wedi pesychu arno/arni, neu wedi cael mathau eraill o gysylltiad o fewn 1 metr am 1 munud neu fwy
  • Rhywun o fewn 2 fetr i chi am fwy na 15 munud
  • Rhywun rydych chi wedi teithio mewn cerbyd gydag ef/hi - neu wedi eistedd yn agos atoch chi ar drafnidiaeth gyhoeddus

Cyn gynted ag y bydd pobl yn dechrau arddangos symptomau, dylent drefnu cael prawf cyn gynted â phosibl tra byddant hwy ac aelodau o'u haelwyd yn hunanynysu. Mae olrhain cysylltiadau yn dibynnu ar gynnal profion yn gyflym. Wrth dderbyn canlyniad positif, gofynnir i bobl gefnogi gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu GIG Cymru trwy adael i’r swyddog olrhain cysylltiadau wybod am eu cysylltiadau diweddar fel y gellir cysylltu â nhw a'u hysbysu i hunanynysu (ac i gael prawf os ydyn nhw hefyd yn arddangos symptomau), i helpu i atal y feirws rhag lledaenu.

 

Beth ddylwn i ei wneud os cysylltir â mi?

Dim ond pan gadarnhawyd eich bod wedi cael cysylltiad agos â rhywun sydd â choronafeirws y cewch eich ffonio. Mae hyn yn golygu y byddech mewn mwy o berygl o ddal y clefyd a'i drosglwyddo i bobl eraill.

Mae swyddogion olrhain cysylltiadau yno i'ch diogelu chi, eich ffrindiau, eich teulu a'r gymuned rhag dal coronafeirws. Byddwch mor onest â phosibl ynglŷn â phwy rydych chi wedi bod mewn cysylltiad â nhw a ble rydych chi wedi bod wrth roi gwybodaeth i’r swyddogion olrhain cysylltiadau. Ni fyddwch yn cael dirwy am gyfaddef eich bod wedi torri’r rheolau. Ni fydd eich manylion personol yn cael eu rhannu ag unrhyw un.

Mae'n bwysig iawn eich bod yn gwrando ar yr holl gyfarwyddiadau a roddir i chi gan y swyddogion olrhain cysylltiadau ac eich bod yn eu dilyn. Gallai'r rhain gynnwys:

  • Hunanynysu
  • Mwy o fesurau hylendid fel golchi dwylo a glanhau arwynebau
  • Gofyn am brawf coronafeirws.

Bydd swyddogion olrhain cysylltiadau yn gofyn ichi am fanylion y bobl yr ydych wedi bod mewn cysylltiad â nhw yn y cyfnod o 48 awr cyn i’r symptomau coronafeirws ddechrau, i saith diwrnod ar ôl i'r symptomau coronafeirws ddechrau.

Y byrddau iechyd sy’n olrhain cysylltiadau. Maent yn darparu cydgysylltiad lleol ac yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a gwasanaethau cyhoeddus eraill i roi timau olrhain cysylltiadau ar waith.

 

Beth fyddan nhw'n ei ofyn?

Byddant hefyd yn casglu gwybodaeth am y lleoedd yr ydych wedi ymweld â nhw yn ddiweddar ac enwau a manylion cyswllt y bobl yr oeddech mewn cysylltiad agos â nhw yn ystod y 48 awr cyn i'ch symptomau ddechrau.

Yna bydd y timau olrhain yn cysylltu â’r bobl y nodwyd eu bod wedi dod i gysylltiad agos ag unrhyw un sydd wedi profi'n bositif a byddant yn gofyn iddynt aros gartref (hunanynysu) am 14 diwrnod.

Cofiwch: NI fyddant BYTH yn gofyn am unrhyw fanylion banc neu daliadau.

Rhannu: