Neidio i'r prif gynnwy

Cwestiynau Cyffredin

Beth os rwy'n hyfforddi / gweithio yn rhan amser?

Nid oes disgwyl i unigolyn hyfforddi ac i weithio’n amser llawn.

Os yw'n gweithio'n rhan-amser / llai nag amser llawn, bydd gwyliau blynyddol, cyflog a phennu band yn cael eu cyfrifo pro rata. Fodd bynnag, os yw GPST yn hyfforddi yn y meysydd sy'n etifeddu'r cynllun cymhelliant, byddai’n dal i fod yn gymwys i gael y taliad cymhelliant llawn.

 phwy y dylwn i siarad am fy mlwyddyn practis meddyg teulu/gwasanaeth y tu allan i oriau ar ôl cymhwyso?

Bydd rhaid i unigolion ddangos tystiolaeth o’u blwyddyn mewn ymarfer er mwyn derbyn taliad y cymhelliad. Bydd y dystiolaeth hon yn cynnwys slipiau cyflog ar gyfer y cyfnod o 12 mis ynghyd â llythyr oddi wrth eich practis meddyg teulu/gwasanaeth y tu allan o oriau sy’n cadarnhau eich cyflogaeth. Os hoffech chi drafod ymhellach, e-bostiwch NWSSPGPSingleLeadEmployer@wales.nhs.uk.

Pam mae hyn wedi ei gyflwyno yng Nghymru?

Nod y cymhelliad hwn yw cydnabod gwerth a phwysigrwydd hyfforddiant meddygon teulu yng Nghymru a helpu i gynyddu diddordeb mewn hyfforddiant yng Nghymru a nifer y ceisiadau i’w wneud yma. Gwneir hyn fel bod mwy o swyddi meddygon teulu yn cael eu llenwi.

NIIAS (Teclyn Archwilio Integredig Deallus Cenedlaethol)

Mae NIIAS, sef teclyn archwilio electronig wedi’i gyflwyno ar draws GIG Cymru i ganfod mynediad i systemau electronig, canlyniadau a chofnodion gan staff y GIG a allai fod yn anghyfiawn neu’n amhriodol.

Mae NIIAS yn defnyddio triongli data deallus a logiau archwilio i ganfod pryd y gallai gweithiwr fod wedi camddefnyddio ei hawliau mynediad. Mae’n hysbysu’r timau llywodraethu gwybodaeth yn awtomatig o unrhyw weithgaredd a all fod yn destun pryder.

Enghreifftiau o'r math hwn o weithgaredd yw:

  • Pan fydd gweithiwr y GIG yn cael mynediad at ei gofnod gofal ei hun heb fynd trwy'r weithdrefn gywir;
  • Pan fydd gweithiwr y GIG yn cael mynediad at gofnod aelod o'r teulu;
  • Pan fydd gweithiwr y GIG yn cael mynediad at gofnod unigolyn sy'n byw yn yr un cyfeiriad;
  • Pan fydd gweithiwr y GIG yn cael mynediad at gofnod cymydog agos; a
  • Phan fydd gweithiwr y GIG yn cael mynediad at gofnod cydweithiwr.

Wrth gwrs, bydd adegau pan fydd rhywfaint o’r gweithgarwch uchod yn gwbl dderbyniol ac yn gyfiawn; er enghraifft, pan fydd gweithiwr yn darparu’r gofal i gymydog neu gydweithiwr. Fodd bynnag, cynhelir gwiriad i sicrhau bod hyn yn wir ac i sicrhau na thorrwyd polisïau. Gall hynny arwain at ymchwilio a gweithredu pellach, felly ystyriwch yn ofalus os oes angen ichi edrych ar wybodaeth bersonol neu ganlyniadau rhywun cyn i chi wneud hynny.

Beth yw'r broses ar gyfer gwneud ceisiadau llai na llawn amser (LTFT) a thu allan i'r rhaglen?

Dylid cyflwyno pob cais LTFT a thu allan i’r rhaglen i AaGIC. I gael rhagor o wybodaeth neu i gyflwyno cais, cysylltwch â chyfarwyddwr eich rhaglen.

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn sâl?

Mae’nrhaid i chi roi gwybod i’ch rheolwr, eich cydlynydd rota neu’ch goruchwyliwr addysgol ar ddiwrnod cyntaf eich absenoldeb pan fydd angen amser o’r gwaith arnoch oherwydd salwch; rhaid nodi beth yw natur y salwch.

Os ydych ar leoliad mewn ysbyty, cysylltwch ag AD meddygol neu’r rheolwr rota. Os ydych ar leoliad mewn practis, cysylltwch â’r practis meddygon teulu neu’r hyfforddwr meddygon teulu. Dylai fferyllwyr cyn-gofrestru gysylltu â'r goruchwyliwr addysgol yn eu lleoliadau perthnasol.

Ar gyfer unrhyw gyfnod o absenoldeb salwch rhwng un a saith diwrnod calendr mae’n rhaid i chi gwblhau ffurflen hunan-ardystio os nad yw eisoes wedi’i ardystio gan nodyn ffitrwydd neu dystysgrif ysbyty. Dylid cwblhau hyn ar ôl dychwelyd i’r gwaith.

Os yw’r cyfnod absenoldeb yn parhau y tu hwnt i saith diwrnod calendr, rhaid i chi gyflwyno nodyn ffitrwydd (tystysgrif feddygol) ar gyfer pob diwrnod o absenoldeb wedi hynny. Fel rheol, dylai eich goruchwyliwr addysgol neu eich rheolwr dderbyn nodyn ffitrwydd cyn pen tri diwrnod calendr ar ôl iddo ddod yn ddyledus.

Bydd absenoldeb salwch heb hunan dystysgrif neu nodyn ffitrwydd yn cael ei drin fel absenoldeb anawdurdodedig. Fydd dim tâl ar gyfer yr absenoldeb hwn.

Ar ôl unrhyw gyfnod o absenoldeb salwch, gofynnir i chi fynd i gyfweliad dychwelyd i'r gwaith gyda'ch goruchwyliwr addysgol neu reolwr i drafod eich absenoldeb ac unrhyw anghenion neu bryderon penodol sydd gennych.

Ar gyfer unrhyw gyfnodau o absenoldeb ac eithrio gwyliau blynyddol a seibiant i astudio sydd gyda'i gilydd yn dod i fwy na 14 diwrnod yn ystod unrhyw flwyddyn, cynhelir adolygiad i benderfynu a oes angen ymestyn dyddiad cwblhau eich rhaglen. Bydd unrhyw newid i ddyddiad gorffen eich rhaglen yn cael ei gadarnhau gan AaGIC.

Oes gen i hawl i absenoldeb arbennig?

Mae PCGC yn rhoi cymorth i’w gweithwyr ar adegau o angen brys ac annisgwyl trwy ystyried darparu absenoldeb ychwanegol, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau. Y sefyllfaoedd y bwriedir i’r Polisi Absenoldeb Arbennig ddelio â nhw yw:

  • Absenoldeb ar gyfer argyfwng yn ymwneud â gofalwyr a dibynyddion
  • Absenoldeb ar gyfer argyfwng annisgwyl; ac
  • Absenoldeb oherwydd profedigaeth.

Nid yw absenoldeb a ganiateir o dan y Polisi Absenoldeb Arbennig wedi’i fwriadu ar gyfer sefyllfaoedd domestig a theuluol hir dymor neu ragweladwy y gellir darparu ar eu cyfer mewn ffyrdd eraill, e.e. gwyliau blynyddol, absenoldeb di-dâl, neu lai o oriau gwaith.

Dylid cyflwyno ceisiadau am absenoldeb arbennig i’ch goruchwyliwr addysgol/rheolwr practis a fydd wedyn yn eu hanfon ymlaen at dîm Cyflogwr Arweiniol Sengl PCGC i’w cymeradwyo, yn unol â’r Polisi Absenoldeb Arbennig.

Oes gen i hawl i absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu a rhiant?

Os oes angen absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu neu riant arnoch, rhowch wybod i’r Tîm Cyflogwr Arweiniol Sengl cyn gynted â phosib trwy anfon pob cais neu ymholiad at HEIW.Recruitment@wales.nhs.uk. Gellir dod o hyd i ganllawiau ar ein gwefan.

Bydd angen i unrhyw un beichiog dan hyfforddiant gwblhau asesiad risg gyda'i oruchwyliwr addysgol, rheolwr neu reolwr practis i nodi unrhyw risgiau ac addasiadau penodol y mae'n rhaid eu gwneud i ddiogelu’r gweithiwr a'i phlentyn heb ei eni.

Oes gen i hawl i seibiant i astudio?

Cyfrifoldeb AaGIC yw seibiant i astudio, felly anfonwch unrhyw ymholiadau sy'n gysylltiedig ag astudio at HEIW.Recruitment@wales.nhs.uk.

Caniatâd i fod yn absennol

Beth yw fy hawl i wyliau blynyddol?

Mae gan bob hyfforddai hawl i naill ai 27 neu 32 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata os yn llai na llawnamser), a fydd yn amrywio yn dibynnu ar eich pwynt cyflog. Dylech gyfeirio at eich contract cyflogaeth a'ch telerau ac amodau gwasanaeth am union nifer y dyddiau y mae gennych hawl iddynt bob blwyddyn.

Rhaid cyflwyno ceisiadau am wyliau blynyddol gyda rhybudd rhesymol a rhaid i’ch sefydliad sy’n lletya gytuno arnynt. Dyrennir eich gwyliau blynyddol ar sail pro rata fesul lleoliad ar batrwm cylchdro. Golyga hyn fod rhaid i chi sicrhau eich bod yn cymryd eich gwyliau blynyddol yn ystod unrhyw leoliad penodol, yn unol â’ch contract cyflogaeth.

Indemniad Meddygol

Rwy'n fyfyriwr meddygol dan hyfforddiant. Pa drefniadau sydd ar waith i gwmpasu indemniad meddygol?

Fel unigolyn dan hyfforddiant sy'n gweithio yng Nghymru, rydych chi'n cael eich cyflogi gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre o dan adain Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. Mae'r Ymddiriedolaeth a'r sefydliad rydych chi'n gweithio ynddo yn rhoi Indemniad y GIG ar waith i gwmpasu’ch gweithgareddau GIG. Bydd hyn yn darparu indemniad ar gyfer unrhyw hawliad sifil sy'n deillio o'ch gweithred esgeulus, hepgor neu dorri dyletswydd statudol yn ystod eich cyflogaeth neu'ch dyletswyddau.

Tra byddant yn gweithio mewn practisiau meddygon teulu, bydd meddygon teulu arbenigol dan hyfforddiant hefyd yn dod o dan y cynllun Indemniad Ymarfer Meddygol Cyffredinol (GMPI) dewisol ar gyfer gwaith y GIG. Mae’r cynllun yn darparu indemniad ar gyfer hawliadau esgeuluster sy’n codi ar ôl 1 Ebrill 2019.

Er bod cynlluniau indemniad y GIG yn darparu yswiriant ar gyfer eich gwaith GIG, fe'ch cynghorir yn gryf i gael yswiriant personol eich hun gan ddarparwr indemniad preifat neu sefydliad amddiffyn meddygol i fynd i'r afael â'r risg y bydd achos cyfreithiol yn cael ei ddwyn yn eich erbyn nad yw'n hawliad sifil (ar gyfer achos troseddol, er enghraifft), yr angen i gael cynrychiolaeth mewn cwest lle rydych chi'n barti â diddordeb ar wahân, neu atgyfeiriad i'r Cyngor Meddygol Cyffredinol. Dylech hefyd geisio yswiriant personol ar wahân ar gyfer unrhyw weithgaredd nad yw’n rhan o‘ch dyletswyddau fel meddyg teulu dan hyfforddiant, megis gwaith preifat mewn practis meddyg teulu neu weithredoedd Samariad Trugarog.

Mae cynlluniau indemniad y GIG yn sicrhau bod y costau y bydd rhaid i chi eu talu i ddarparwr yswiriant preifat neu sefydliad amddiffyn meddygol yn sylweddol is.

Sut mae hawlio treuliau?

Bydd cyfrif e-dreuliau ar-lein yn cael ei drefnu ichi ar gyfer hawlio unrhyw gostau a ganiateir. Sicrhewch eich bod yn uwchlwytho derbynebau ar gyfer pob hawliad treuliau (trafnidiaeth gyhoeddus, cyrsiau hyfforddi, taliadau parcio, tollau, cynhaliaeth, a llety), gan na chaiff hawliadau eu cymeradwyo hebddynt.

Sicrhewch hefyd eich bod yn hawlio treuliau cyn pen 3 mis ar ôl iddynt ddigwydd. Rhaid hawlio treuliau erbyn y pumed dydd o bob mis, a rhaid i geisiadau gael eu cymeradwyo cyn y seithfed dydd o bob mis er mwyn i dreuliau gael eu talu yr un mis. (Cofiwch fod sawl cam yn y broses o gymeradwyo treuliau, felly mae’n bosibl na chaiff hawliadau am dreuliau a gyflwynwyd ar y pumed eu cymeradwyo erbyn y seithfed). Gellir dod o hyd i ganllawiau ar dreuliau ac adleoli yma.

Os ydych wedi anghofio’ch cyfrinair neu os ydych yn cael problemau eraill wrth geisio mewngofnodi i’ch cyfrif, rhowch gynnig ar ddefnyddio opsiwn ‘forgotton details’ ar dudalen hafan y wefan e-dreuliau, neu anfonwch e-bost at NWSSP.ExpensesNW@wales.nhs.uk a bydd aelod o staff yn eich cynorthwyo gyda’ch cyfrif.

Defnyddiwch y Porth i Gwsmeriaid ar gyfer ymholiadau sy'n ymwneud â threuliau

Er mwyn sicrhau y byddwch yn cael y profiad gorau wrth ddefnyddio ein gwasanaeth, mae PCGC wedi trosglwyddo ein porth Treuliau i gwsmeriaid i ActionPoint. Mae'r newid hwn yn cynnig profiad cymorth wedi'i optimeiddio, sy’n ein galluogi i gwrdd â’ch anghenion chi gystal ag y gallwn.

Fel rhan o'r newid hwn, ers 01/02/21 ni allwch bellach anfon e-bost at ein tîm cymorth yn uniongyrchol. Yn lle hynny, bydd angen i chi fewngofnodi i'n porth cymorth newydd.

Cliciwch yma i ddod o hyd i ganllaw sy'n esbonio sut i ddefnyddio'r porth i gwsmeriaid. Rydym yn eich cynghori i adolygu hyn ac ymgyfarwyddo â'r porth i gwsmeriaid

  • Rydym yn parhau i ddatblygu ein porth yn y cefndir a chyn bo hir bydd yn cael ei ddiweddaru i gynnwys cymorth a chefnogaeth a dolenni i ddogfennau a gwefannau.
  • Mae'r porth yn cynnig y gallu i uwchlwytho ffeiliau/dogfennau a byddwch yn cael cyfeirnod unigryw ar gyfer eich galwad. Byddwch hefyd yn gallu olrhain cynnydd eich galwad.

Mewngofnodi i'r Porth i Gwsmeriaid

I fewngofnodi i'r porth, cliciwch ar y ddolen isod:

Mewngofnodi (cymru.nhs.uk)

Dylid anfon ymholiadau ynghylch adleoli at NWSSP.JuniorDoctorsRelocation@wales.nhs.uk

A oes gennych unrhyw wybodaeth bersonol arall a sut mae'n cael ei chadw?

Fel eich cyflogwr, mae gennym hefyd gofnod o'ch cais a'ch gwiriadau cyn cyflogaeth ar ffeil bersonol electronig.

Beth yw'r Cofnod Staff Electronig (ESR)?

System genedlaethol y GIG yw ESR ar gyfer rheoli Adnoddau Dynol, y gyflogres ac adrodd. Dyma lle bydd y Cyflogwr Arweiniol Sengl yn cofnodi absenoldebau ac absenoldeb arbennig ar ran sefydliadau sy’n lletya. Bydd gofyn i chi hefyd ddefnyddio eu cofnod a rhoddir enw defnyddiwr a chyfrinair i chi.

Cewch eich cofrestru ar ESR pan fyddwch yn dechrau gweithio i PCGC. Anfonir eich cyfrinair at eich e-bost GIG Cymru. Mae gennym system slip cyflog di-bapur, felly bydd modd i chi weld a lawrlwytho eich slipiau cyflog ar ESR.

Gofynnwn ichi hefyd gadw eich gwybodaeth bersonol yn gyfredol ar ESR gan ein bod yn dibynnu ar yr wybodaeth hon pe bai angen i ni gysylltu â chi am unrhyw reswm. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’ch cyfrif ESR, cysylltwch â Hwb Cymorth ESR: esrhub.wales@wales.nhs.uk

Pryd y bydda i'n cael fy nhalu?

Byddwch yn cael eich talu ar yr 21ain o bob mis, neu ar y dydd Gwener cynt os yw'r 21ain yn cwympo ar benwythnos neu ŵyl banc. Fe'ch telir trwy drosglwyddiad BACS. Bydd slipiau cyflog ar gael trwy ESR (gweler isod).

Sut y bydd gwybodaeth yn cael ei chyfleu i mi fel unigolyn dan hyfforddiant?

Bydd pob dogfennaeth swyddogol yn cael ei hanfon at eich cyfeiriad e-bost GIG Cymru. Felly mae’n bwysig eich bod yn gwirio’ch cyfrif yn rheolaidd. Os ydych angen cymorth i gael mynediad i’ch cyfrif, cysylltwch ag: it.servicedesk@Wales.nhs.uk

Pam mae fy nghontract cyflogaeth yn cyfeirio at Ymddiriedolaeth GIG Felindre yn lle PCGC?

Ymddiriedolaeth GIG Felindre sy'n lletya PCGC, felly mae pob contract cyflogaeth yn cael ei gyhoeddi gan Ymddiriedolaeth GIG Felindre.

Pryd y byddaf yn derbyn fy nghontract cyflogaeth?

Bydd eich contract cyflogaeth gyda PCGC yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost GIG Cymru ar ddiwrnod cyntaf eich cyflogaeth. Bydd hyn yn manylu ar y telerau ac amodau sy'n berthnasol i'ch cyflogaeth.

Gofynnir i chi lofnodi a dychwelyd un copi i'r tîm Cyflogwr Arweiniol Sengl trwy e-bost neu bost.

Beth mae'r model Cyflogwr Arweiniol Sengl yn gyfrifol amdano?
  • Cyhoeddi llythyrau cynnig ar gyfer cyflogaeth
  • Cwblhau gwiriadau cyflogaeth
  • Cyhoeddi a diwygio contractau cyflogaeth
  • Darparu Yswiriant Indemniad Meddygol ar gyfer gweithgareddau'r GIG
  • Trefnu ceisiadau ar gyfer y Rhestr Cyflawnwyr, lle bo hynny'n berthnasol
  • Iechyd galwedigaethol, cymorth gweithwyr, cymorth iechyd a llesiant
  • Hyfforddiant statudol a gorfodol
  • Talu cyflogau a threuliau
  • Cymhwyso polisïau a gweithdrefnau cyflogaeth mewn cydweithrediad â'r holl randdeiliaid
  • Darparu cyfleusterau Adnoddau Dynol
  • Talu seibiant i astudio (unwaith y bydd wedi'i awdurdodi gan AaGIC)
Sut y bydd sefydliadau sy'n lletya'n gwybod pwy sy'n cael eu lleoli gyda nhw?

Bydd AaGIC yn parhau i hysbysu sefydliadau sy’n lletya trwy Intrepid pwy sy'n cylchdroi i'w sefydliad pan fydd hyn yn digwydd.

Bydd y Cyflogwr Arweiniol Sengl hefyd yn rhoi gwybodaeth ategol allweddol i sefydliadau sy’n lletya ar gyfer y rhai dan hyfforddiant sy'n cylchdroi iddynt, gan gynnwys manylion personol, sicrwydd ar wiriadau cyflogaeth ac unrhyw wybodaeth ychwanegol fel ymgymeriadau y Cyngor Meddygol Cyffredinol.