Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau yn y Gymraeg.
Ni fydd ymgysylltu gyda ni yn y Gymraeg yn arwain at oedi.
Cyn ymuno â’r Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg, cwblhaodd Rob ei radd LLB ym Mhrifysgol Bryste yn 2015. Yna cafodd ei benodi'n Ddarlithydd Gwadd ym Mhrifysgol Gambia, yn addysgu y Gyfraith Gamweddau a'r Gyfraith Gamweddau Uwch a Chyfreitheg. Ar ôl dychwelyd i'r DU, cwblhaodd Rob radd LLM mewn Cyfraith Hawliau Dynol Rhyngwladol ym Mhrifysgol Essex. Roedd ei draethawd estynedig yn archwilio’r rhwymedigaethau iechyd y cyhoedd yn sgil yr hawl ryngwladol i iechyd.
Ymunodd Rob â’r Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg yn Baragyfreithiwr ym mis Awst 2018. Cymhwysodd fel Gweithredwr Cyfreithiol Siartredig yn 2022, ar ôl gweithio mewn amrywiaeth o dimau ar draws yr Adran Esgeuluster Clinigol. Yna croes-gymhwysodd Rob fel Cyfreithiwr yn 2024. Mae gan Rob ddiddordeb arbennig mewn hawliadau Offthalmoleg a hawliadau sy'n ymwneud â threfniadau allanoli.