Neidio i'r prif gynnwy

Gweithio i ni

Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) yn sefydliad ledled Cymru, sy'n cefnogi byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd ledled Cymru trwy ddarparu ystod gynhwysfawr o swyddogaethau a gwasanaethau cymorth o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar y cwsmer. Ein nod yw cynorthwyo GIG Cymru trwy fod yn sefydliad cydwasanaethau pwrpasol sydd â hunaniaeth unigryw, sydd:

  •  Yn rhannu safonau gweithredu cyffredin yn unol â’r arfer gorau.
  •  Yn ddigon mawr i fanteisio ar arbedion maint a phŵer prynu wrth wella ansawdd
  •  Yn meddu ar ethos gofal cwsmeriaid rhagorol ac yn canolbwyntio ar ansawdd gwasanaethau.

Gan fod y sefydliad yn darparu gwasanaethau ledled Cymru, mewn amrywiaeth o wasanaethau proffesiynol a thrafodol mae detholiad enfawr o gyfleoedd i ddewis o’u plith. Darganfyddwch fwy am ein gwasanaethau.

 

 

Gwerthoedd

Mae PCGC wedi datblygu ein gwerthoedd i'n galluogi i ddisgrifio ethos y sefydliad a'r ffyrdd rydyn ni'n gweithio. Rydym yn ceisio mynd ati i recriwtio staff a all ddangos eu bod yn ymgorffori'r gwerthoedd hyn ac yn cefnogi ac annog staff i arddangos y gwerthoedd hyn tra eu bod yn gweithio gyda ni.

  • Gwrando a Dysgu er mwyn gwella ansawdd, effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd popeth a wnawn.
  • Gweithio gyda’n gilydd gyda chydweithwyr, cwsmeriaid a chyflenwyr.
  • Cymryd cyfrifoldeb am benderfyniadau ac am roi pethau ar waith.
  • Arloesi er mwyn hyrwyddo gwella parhaus.
Working Together Gweithio gyda'a Gilydd

 

Innovating Arloesi

 

Listening and Learning Gwrando a Dysgu

 

Taking Responsibility Cymryd Cyfrifoldeb

 

 

Manteision

Rydym yn cynnig y buddion canlynol yn PCGC:

  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol + gwyliau cyhoeddus y flwyddyn pro rata wrth gychwyn. Mae hyn yn cynyddu i 30 diwrnod o wyliau blynyddol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth yn y GIG ac i 34 diwrnod ar ôl 10 mlynedd o wasanaeth yn y GIG.
  • Cynllun prynu gwyliau blynyddol, gweithio hyblyg.
  • Mynediad i'r Rhaglen Cymorth i Weithwyr, ein gwasanaeth cwnsela cyfrinachol.
  • Datblygiad proffesiynol a chyfleoedd gyrfa.
  • Aelodaeth awtomatig o gynllun pensiwn y GIG.
  • Talebau Gofal Plant.
  • Cynllun seiclo i’r gwaith.
  • Cynlluniau aberthu cyflog ar gyfer ceir prydles a nwyddau electronig i’r cartref.
  • Mentrau iechyd a llesiant ledled y sefydliad.
  • Mynediad at wasanaethau iechyd galwedigaethol i gael cefnogaeth.
 
 

Darparwyr Gostyngiad i Staff y GIG

  • Gostyngiadau Gwasanaeth Iechyd.
  • Gostyngiadau i Staff.
  • Blue Light Card.
 

Iechyd a Lles

Mae PCGC wedi ymrwymo i iechyd a llesiant staff. Mae gennym nifer o Hyrwyddwyr Llesiant ledled y sefydliad sy'n arddangos agwedd gadarnhaol tuag at iechyd a llesiant, gan gyfeirio staff at wybodaeth a'u hannog i gymryd rhan yn y gwahanol fentrau a redir trwy gydol y flwyddyn.

 
 

Cyfleoedd Datblygu

Bydd ein holl staff yn cael arfarniad rheolaidd i nodi meysydd ar gyfer twf a datblygiad. Mae PCGC yn cynnig rhaglen hyfforddi fewnol ac yn cefnogi mynediad i nifer o raglenni allanol i alluogi unigolion i ddatblygu trwy gydol eu gyrfaoedd, o gymwysterau lefel mynediad i raddau meistr lle bo hynny'n briodol, ar gyfer y rôl.

Rhannu: