Neidio i'r prif gynnwy

Ein Cwsmeriaid

Anti Violence Collaborative

Canolbwyntio ar Gwsmeriaid

 
Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn deall y pwysigrwydd gwasanaethau cwsmeriaid wrth ddarparu gwasanaethau i unigolion a grwpiau.
 
Rydym yn ymrwymedig i greu a datblygu ymagwedd gadarnhaol tuag at i wasanaethau cwsmeriaid lle rydym yn ymdrechu’n barhaus i ragori ar ddisgwyliadau ein cwsmeriaid. Ein nod yw creu amgylchedd lle mae gwasanaethau cwsmeriaid yn cael ei weld fel elfen hanfodol o reoli a darparu gwasanaethau.
 
 
pdf icon
 

Siarter Cwsmer (PDF, 221KB)

 

Y Prif Fuddiannau

 

Buddiannau Ariannol

  • Arbed costau gwirioneddol drwy symleiddio prosesau trafodol
  • Arbed costau gwirioneddol drwy newid ymddygiad yn lleol ee cydymffurfiaeth gyda gweithdrefnau newydd
  • Arbedion yn sgil cyfleoedd drwy gyflawni swyddogaethau’n well
  • Arbedion yn sgil cydweithio drwy gynyddu pŵer prynu partneriaethau sector cyhoeddus
  • Osgoi costau drwy ddileu camgymeriadau

Buddiannau Eraill

  • Bydd cysoni’r ffordd o ddarparu gwasanaethau yn gwella cysondeb y cymorth
  • Bydd safoni arferion gorau yn gwella safonau ac ansawdd gwasanaethau cwsmeriaid
  • Cynyddu adnoddau drwy ddileu dyblygu
  • Cynyddu adnoddau mewn Byrddau Iechyd drwy wahanu swyddogaethau trafodol
  • Defnydd gwell o sgiliau’r staff
  • Mwy o foddhad swydd a chyfleoedd gyrfa i staff
  • Cadernid busnes gwell drwy brosesau recriwtio a chadw gwell
  • Llywodraethu, tryloywder a rheolaeth ariannol well
  • Cynyddu hyder staff a’r cyhoedd drwy hunaniaeth gorfforaethol gref ar gyfer “Tîm GIG Cymru”
Rhannu: