Neidio i'r prif gynnwy

Banc Adnoddau PCGC

 

Croeso i Fanc Adnoddau PCGC

 

Nod Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) yw darparu gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog ac mae ein staff wrth wraidd darparu rhagoriaeth gwasanaeth i'n cwsmeriaid a'n rhanddeiliaid. Ein nod yw rhagori ar ddisgwyliadau ein cwsmeriaid a chreu amgylchedd lle mae gwasanaeth cwsmeriaid yn elfen greiddiol o reoli a darparu gwasanaethau.

 

Beth yw natur gweithio i'r Banc Adnoddau?

  • Mae swyddi’r Banc Adnoddau yn lleoliadau gwaith dros dro, tymor byr ledled Cymru. Rydym yn cynnig nifer o rolau gwahanol gan gynnwys rhai gweinyddu, gyrru, y golchdy a gwaith warws.
  • Rydym bob amser yn chwilio am unigolion hyblyg a brwdfrydig i ymuno â'n Timau Banc Adnoddau ledled Cymru.
  • Mae PCGC yn dibynnu ar ei Staff Banc Adnoddau dros dro i ddiwallu anghenion amrywiol ei gwasanaethau a achosir oherwydd absenoldeb neu salwch staff a bylchau yn ei gweithlu.
  • Oherwydd lefelau amrywiol gwaith ledled Cymru, mae gan y tîm Banc Adnoddau sifftiau rheolaidd ar gael ar gyfer eu staff banc.
  • Mae staff y Banc Adnoddau yn chwarae rôl hanfodol er mwyn sicrhau y cynhelir safonau uchel ac mae hyn yn golygu y caiff y gweithwyr dros dro hyn eu gwerthfawrogi’n fawr.

 

Beth ydy manteision gweithio i fanc staff PCGC?

Mae nifer fawr iawn o fuddiannau o ddewis gweithio i fanc PCGC gan gynnwys:

Datblygiad personol ac ennill sgiliau mewn meysydd newydd

Blaenoriaeth dros weithwyr asiantaeth sy’n golygu y cewch chi’ch dewis o’r sifftiau sydd ar gael

Bod yn rhan o deulu’r GIG a PCGC; aelod gwerthfawr o weithlu’r Ymddiriedolaeth

Gall staff y Banc Adnoddau ddewis pa sifftiau maen nhw am eu derbyn sy’n rhoi llawer iawn o hyblygrwydd iddyn nhw

 

Pwy sy’n gallu gweithio i Fanc Adnoddau PCGC?

Gall unrhyw un weithio i dîm Banc Adnoddau PCGC ar yr amod eu bod yn cwblhau'r gwiriadau cynefino perthnasol yn llwyddiannus. Ymhlith y bobl a allai fanteisio ar sifftiau hyblyg mae’r:

  • Sawl sydd wedi ymddeol ond hoffai gynnal eu gwybodaeth bresennol neu ennill ychydig o arian ychwanegol
  • Sawl sy’n rhieni neu sydd ag ymrwymiadau teuluol ac sydd angen sifftiau sy’n cyd-fynd â’r ysgol, gofal plant a rhagor
  • Sawl sy’n gweithio’n barhaol i ymddiriedolaeth y GIG ac sy’n chwilio am sifftiau ychwanegol i ychwanegu at eu hincwm neu sydd am ennill profiad mewn maes newydd o’r sefydliad
  • Myfyrwyr sydd am ennill profiad gwaith ac ennill arian tra eu bod yn dysgu

(Sylwer nad oes gwarant oriau gyda’r Banc Adnoddau, ond mantais hyn yw ei fod yn rhoi profiad a hyblygrwydd i chi ac mae amrywiaeth o wahanol rolau a swyddi ar gael.)

 

Sut mae cysylltu â thîm y Banc Adnoddau?

  • Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau, neu os hoffech ymuno â Banc Adnoddau PCGC, anfonwch e-bost at y tîm yn NWSSP.Resourcebank@wales.nhs.uk
Rhannu: