Neidio i'r prif gynnwy

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau yn y Gymraeg.
Ni fydd ymgysylltu gyda ni yn y Gymraeg yn arwain at oedi.

Trawsnewid Mynediad at Feddyginiaethau (TrAMs)

Mae Trawsnewid Mynediad at Feddyginiaethau (TrAMs) yn rhaglen Cymru Gyfan. Ei nod yw trawsnewid Gwasanaethau Technegol Fferyllol ac ailgyflunio'r gwasanaethau datganoledig fel un gwasanaeth gweithgynhyrchu meddyginiaethau cenedlaethol â’r amcan o ddarparu gwasanaeth i GIG Cymru sy’n fwy effeithlon, arloesol a gwydn ac sy’n cydymffurfio.

Bydd TrAMs yn trawsnewid y gwaith o gweithgynhyrchu meddyginiaethau yng Nghymru ar gyfer rhai o'r triniaethau mwyaf arloesol sy’n achub bywydau. Mae’r rhain yn cynnwys therapïau canser, maethiad a gymerir trwy wythïen a meddyginiaethau mewnwythiennol eraill.

Ar hyn o bryd, mae Gwasanaethau Technegol Fferyllol yn gweithredu fel gwasanaethau datganoledig ledled Cymru. Cânt eu rheoli ar wahân gan Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau. Mae'r gwasanaeth yn faes arbenigol o fewn Fferylliaeth mewn Ysbytai. Mae’n cynnwys Gwasanaethau Aseptig, sy'n gyfrifol am baratoi meddyginiaethau chwistrelladwy ar ffurf sy’n barod i'w defnyddio, a hynny gan ddefnyddio technegau di-haint. Mae Gwasanaethau Aseptig yn paratoi ac yn cyflenwi meddyginiaethau cymhleth â risg uchel. Mae’r rhain yn cynnwys therapïau gwrth-ganser systemig (SACT), maethiad a gymerir trwy wythïen (mewnwythiennol) (PN) ar gyfer cleifion sy'n methu ag amsugno maetholion o'r bwyd maen nhw'n ei fwyta, a deunydd fferyllol ymbelydrol, sef meddyginiaethau ymbelydrol a ddefnyddir wrth ddiagnosio a thrin canser.

Mae Gwasanaethau Aseptig yn dechnegol ac arbenigol iawn. Mae’n hanfodol uwchraddio'r gwasanaethau hyn er mwyn cynnal cydymffurfedd â safonau rheoleiddio cynyddol llym y DU er mwyn parhau i gyflenwi meddyginiaethau i gleifion. Mae gallu’r gwasanaethau presennol i addasu ac arloesi yn gyfyngedig iawn oherwydd cyfyngiadau gofod ffisegol, diffyg adnoddau a dibyniaeth barhaus ar gyflenwyr masnachol allanol, sy'n arwain at gostau uchel.

Felly mae PCGC yn ymdrechu i fynd i'r afael â'r heriau parhaus y mae Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd yn eu hwynebu, a datblygu canolfannau gweithgynhyrchu meddyginiaethau yng ngogledd, de-ddwyrain a de-orllewin Cymru i ddarparu Gwasanaethau Technegol Fferyllol ar ran GIG Cymru. Bydd y canolfannau’n gartref i ystafelloedd glân aseptig er mwyn darparu amgylcheddau di-haint sy'n addas ar gyfer gweithgynhyrchu meddyginiaethau hanfodol. Ochr yn ochr ag adeiladu'r cyfleusterau, bydd TrAMs yn blaenoriaethu datblygu gweithlu cynaliadwy o fferyllwyr, technegwyr fferyllol a gwyddonwyr medrus iawn trwy fuddsoddi mewn rhaglenni hyfforddi cadarn a llwybrau gyrfa strwythuredig. Bydd ailgyflunio’r gwasanaethau hefyd yn cynnwys gweithredu platfform digidol, sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio gan y Byrddau Iechyd a'r Ymddiriedolaethau, i sicrhau trosglwyddiad llyfn ac effeithlon i'r broses archebu meddyginiaethau. Ar ôl ei sefydlu, bydd TrAMs yn cael ei drwyddedu o dan drwydded Arbennig Gwneuthurwyr yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA). Nod hyn fydd sicrhau bod prosesau gweithgynhyrchu o'r ansawdd uchaf yn cael eu cynnal, a bod modd parhau i gyflenwi meddyginiaethau hanfodol i gleifion ledled Cymru.

Mae Achos Busnes Rhaglen ar gyfer TrAMs wedi'i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru, ac mae gwaith yn mynd rhagddo i nodi, caffael a datblygu cyfleusterau rhanbarthol mewn dull a gyflwynir yn raddol. Yn dilyn buddsoddiad cyfalaf o £7m a ddyfarnwyd gan Lywodraeth Cymru, Radiofferyllfa yn ne-ddwyrain Cymru yw'r cyfleuster TrAMs cyntaf i gael ei ddatblygu, a disgwylir iddo agor ddiwedd 2026. Roedd achos busnes a gyflwynwyd yn ddiweddar i Lywodraeth Cymru yn gofyn am fuddsoddiad cyfalaf o £22m i ddatblygu'r ail gyfleuster TrAMs yn ne-ddwyrain Cymru (wedi'i gydleoli â'r Radiofferyllfa) ar gyfer gweithgynhyrchu meddyginiaethau eraill a all achub bywydau, gan gynnwys SACT a PN. Amcangyfrifir y bydd Hwb y De-ddwyrain yn agor ymhen 2-3 blynedd, yn amodol ar gyllid a gaiff ei ddyfarnu gan Lywodraeth Cymru. Mae’r gwaith o nodi safleoedd priodol yng ngogledd a de-orllewin Cymru yn parhau. Er nad yw’r union amserlenni cyflawni wedi'u cadarnhau, nod rhaglen TrAMs yw agor canolfannau yn y rhanbarthau hyn rhwng 2029 a 2031.

Rhannu: