Neidio i'r prif gynnwy

Cofnodi Digwyddiadau Gofal Sylfaenol Cymru

Mae'n ofynnol i Gontractwyr Gofal Sylfaenol GIG Cymru gofnodi digwyddiadau sydd wedi digwydd yn eu sefydliadau. 

O 1Ebrill 2023, fel rhan o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020, mae hefyd yn ofynnol i Gontractwyr Gofal Sylfaenol gofnodi ac adrodd ar achlysuron pan fydd y Ddyletswydd Gonestrwydd yn cael ei sbarduno.  Rhaid i Gontractwyr Gofal Sylfaenol hysbysu'r Bwrdd Iechyd perthnasol am ddigwyddiadau pan fo’r Ddyletswydd Gonestrwydd wedi'i sbarduno mewn perthynas â'r gofal iechyd y maent yn ei ddarparu o dan gontract neu drefniant arall.

I gefnogi contractwyr Gofal Sylfaenol i gydymffurfio â’u dyletswydd i adrodd, mae’r dolenni a ddarperir ar y wefan hon yn eich cyfeirio at y systemau Datix Cymru priodol.

Mae adnodd Cofnodi Digwyddiadau Cenedlaethol Gofal Sylfaenol Cymru yn defnyddio platfformau Datix Cymru a weithredir gan gyrff iechyd yn GIG Cymru ac mae’n system ddiogel, yn y cwmwl, sy’n galluogi darparwyr Gofal Sylfaenol i wneud yr adroddiadau angenrheidiol a, phan fônt yn cyrchu’r system trwy ddefnyddio manylion mewngofnodi cymeradwy, i weld diweddariadau ar achosion. Defnyddir system Datix Cymru i adrodd am ddigwyddiadau pan fo’r ddyletswydd gonestrwydd yn cael ei sbarduno o fewn darparwr gofal sylfaenol ac i hysbysu'r Corff Iechyd perthnasol am bryderon ynghylch diogelwch cleifion.

Mae Bwrdd Rhaglen System Rheoli Pryderon Unwaith i Gymru, Llywodraeth Cymru a sefydliadau rhanddeiliaid wedi cytuno ar y dull hwn. Bydd data a roddir yn y system yn cael eu defnyddio gan gyrff iechyd yn eu rôl fel sefydliadau iechyd a phan fo’n briodol, yn eu dyletswyddau comisiynu. Bydd staff yn y cyrff iechyd yn penderfynu a oes unrhyw ddigwyddiad a adroddir amdano yn bodloni’r trothwy ar gyfer adrodd cenedlaethol a byddant yn cynghori Uned Gyflawni GIG Cymru drwy’r broses adrodd safonol yn unol â’r polisi cenedlaethol.

 

Cael mynediad i'r system hon

Rhannu: