Neidio i'r prif gynnwy

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau yn y Gymraeg.
Ni fydd ymgysylltu gyda ni yn y Gymraeg yn arwain at oedi.

PROMPT Cymru

 

Ein gweledigaeth:

Lleihau niwed y gellir ei osgoi a gwella canlyniadau amenedigol, a hynny trwy hyfforddiant amlbroffesiynol i wella diogelwch, gwaith tîm a chyfathrebu.

Mae PROMPT Cymru (Hyfforddiant Aml-Broffesiynol Obstetrig Ymarferol) yn rhaglen hyfforddi ar sail tystiolaeth a roddwyd ar waith yng ngwasanaethau mamolaeth GIG Cymru yn 2019. Mae PROMPT Cymru wedi’i hariannu gan Gronfa Risg Cymru, a chaiff ei chydlynu gan Dîm Cenedlaethol sy'n cefnogi timau staff lleol i drefnu a darparu hyfforddiant yn eu hunedau eu hunain i'w timau mamolaeth eu hunain.

Mae set o Safonau PROMPT Cymru yn rhoi arweiniad i Fyrddau Iechyd ynghylch cynaliadwyedd PROMPT Cymru. Mae'n orfodol i'r holl staff sy'n ymwneud â gofal mamolaeth gymryd rhan mewn hyfforddiant PROMPT Cymru ar gyfer pob blwyddyn y rhaglen (Medi i Awst). Yn 2024-25, cyflawnodd GIG Cymru dros 90% o bresenoldeb, sy’n dangos ymrwymiad i’r rhaglen gan uwch dimau arwain, timau hwyluso a’r staff sy’n mynychu bob blwyddyn.

Mae PROMPT Cymru yn cynnwys sesiynau efelychu ar sail senarios a gweithfannau lle mae staff yn cael y cyfle i ymarfer sgiliau clinigol a rheoli argyfwng gyda phwyslais ar weithio mewn tîm. Mae'r berthynas rhwng ffactorau dynol a gofal diogel wedi'i phlethu'n ddi-dor drwy gydol yr hyfforddiant.

Mae hyfforddiant yn y fan a’r lle yn profi systemau a phrosesau lle gellir nodi newidiadau bach sy'n cyfrannu at wella'r sefydliad. Trwy hyfforddiant PROMPT Cymru, mae timau wedi ymgorffori'r defnydd o algorithmau, rhestrau gwirio a phrofformâu i gefnogi rheolaeth glinigol ac i leihau'r cyfle am gamgymeriadau.

Gan ymateb i anghenion hyfforddi, data cenedlaethol ac ymchwiliad cyfrinachol, mae Tîm Cenedlaethol PROMPT Cymru wedi cyflwyno hyfforddiant ar reoli Pen y Ffetws Cywasgedig mewn Genedigaeth Gesaraidd, a datblygodd sesiwn hyfforddi yn seiliedig ar senario ar Cetoasidosis Diabetig yn ystod beichiogrwydd. Cafwyd ymateb da iawn i’r modiwlau newydd hyn gan dimau lleol ac maent wedi cael eu gwerthuso'n gadarnhaol.

Yn fwy diweddar, defnyddiwyd PROMPT Cymru fel platfform i dimau ymgyfarwyddo â phwysigrwydd diogelwch seicolegol yn y gweithle, cwrteisi, a phwysigrwydd uwchgyfeirio amserol. Caiff rhaglenni eu hadnewyddu bob blwyddyn a chânt eu cynhyrchu gan dimau lleol mewn cydweithrediad â'r tîm cenedlaethol fel rhan o'r broses sicrhau ansawdd.

Mae’r tîm cenedlaethol yn cynnal cydberthnasau cryf, cydweithredol â thimau hwyluso PROMPT Cymru yn y Byrddau Iechyd, drwy ddigwyddiadau rhwydweithio cenedlaethol, ac ymweliadau rheolaidd â diwrnodau hyfforddi PROMPT Cymru. Er mwyn sicrhau bod hyfforddiant o ansawdd uchel yn cael ei gynnal flwyddyn ar ôl blwyddyn, cynhelir adolygiadau sicrhau ansawdd bob blwyddyn academaidd a rhennir adroddiad â thimau arwain y Bwrdd Iechyd. Caiff arferion rhagorol eu dathlu a rhennir awgrymiadau ar gyfer gwelliant parhaus.

Llun ar gyfer senario for

Er mwyn sicrhau bod y nifer gorau posibl o staff aml-broffesiynol yn cael ei gynnal ym mhob uned obstetreg, mae'r tîm cenedlaethol yn trefnu hyfforddiant Datblygu Staff blynyddol. Mae'r cyrsiau undydd hyn wedi'u cynllunio i hwyluswyr lleol ymgyfarwyddo â methodoleg PROMPT er mwyn sicrhau bod dull safonedig o hwyluso a hyfforddiant yn cael ei dderbyn ledled Cymru.