Neidio i'r prif gynnwy

Llywodraethu Gwybodaeth

Information Governance

Beth yw Llywodraethu Gwybodaeth?

Fframwaith yw Llywodraethu Gwybodaeth sy’n dwyn ynghyd safonau cyfreithiol, moesegol ac ansawdd sy’n berthnasol i drin gwybodaeth; mae’n berthnasol i wybodaeth am gleifion a gwybodaeth bersonol, yn ymwneud â chyflogeion a chleifion. Mae hyn yn cael ei alw’n Wybodaeth Bersonol Adnabyddadwy.
 
Mae Llywodraethu Gwybodaeth yn mynd law yn llaw â Llywodraethu Clinigol a Chorfforaethol, ac mae’n canolbwyntio ar sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei thrin mewn ffordd gyfrinachol a diogel.
 
Mewn cyd-destun iechyd, mae hefyd yn ymwneud â chefnogi’r broses o ddarparu gofal o ansawdd uchel trwy sicrhau bod y wybodaeth iawn ar gael i’r bobl iawn, ar yr adeg ac yn lleoliad y mae ei hangen.
 
 

Hysbysiad Preifatrwydd

Mae GIG Cymru yn gartref i nifer o sefydliadau iechyd. Mae Partneriaeth Cydwasanaethau Cymru (PCGC) yn un ohonynt ac mae’n sefydliad a letyir gan Ymddiriedolaeth GIG Felindre.
 
Mae’r hyn sydd isod wedi ei ddarparu er eich gwybodaeth chi ac os oes gennych unrhyw gwestiynau, dylech gysylltu â’r Rheolwr Llywodraethu Gwybodaeth. Mae ei fanylion cyswllt i’w gweld ar waelod yr hysbysiad hwn.
Rhannu: