Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus o'r radd flaenaf i'w gwsmeriaid; nod y Bartneriaeth Cydwasanaethau yw 'sicrhau bod Gwasanaethau Cyhoeddus o safon fyd-eang yn cael eu darparu yng Nghymru drwy ganolbwyntio ar gwsmeriaid, cydweithio ac arloesedd'. Yn ogystal, un o amcanion corfforaethol y Bartneriaeth yw 'datblygu dealltwriaeth o gwsmeriaid a diwylliant sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid'. Felly, os ydych wedi cael unrhyw broblemau neu os ydych yn anfodlon ar unrhyw un o wasanaethau'r Bartneriaeth Cydwasanaethau, rhowch wybod i staff y Bartneriaeth ar y pryd neu os yw'n well gennych, rhannwch eich barn a'ch pryderon drwy ddefnyddio unrhyw un o'r dulliau isod.
Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP)
4-5 Cwrt Charnwood,
Heol Billingsley,
Parc Nantgarw,
Caerdydd
CF15 7QZ
Ffon: 01443 848585 (Rydym yn croesawu galwadau yn y Gymraeg.)
Pwy all wneud cwyn?
- Cynrychiolwyr Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd GIG Cymru.
- Cynrychiolwyr adrannau Llywodraeth Cymru sy'n defnyddio'r Bartneriaeth Cydwasanaethau ar gyfer gwasanaethau penodol.
- Gall unigolyn perthnasol sy'n defnyddio gwasanaethau'r Bartneriaeth Cydwasanaethau neu unigolyn sy'n gweithredu ar ran defnyddiwr gwasanaethau wneud cwyn.
- Rhanddeiliaid eraill gan gynnwys Contractwyr, Cyflenwyr a'r cyhoedd.
Mae'r protocol hwn yn berthnasol i Wasanaethau'r Bartneriaeth Cydwasanaethau yn unig ac nid yw'n cynnwys cwynion gan staff a chwynion sy'n ymwneud â chynhyrchion a gwasanaethau a brynwyd drwy'r Bartneriaeth Cydwasanaethau.
Dylid ymdrin â phroblemau/cwynion sy'n ymwneud â chynhyrchion neu wasanaethau a brynwyd gan y Bartneriaeth Cydwasanaethau drwy'r Weithdrefn Gwasanaethau Caffael, er mwyn sicrhau bod materion yn ymwneud ag ansawdd a diogelwch cleifion yn cael eu nodi a bod y cyrff priodol yn cael eu hysbysu ohonynt.
Dilynwch y ddolen isod:
Dylid trafod cwynion neu anghydfod yn ymwneud â chyflogeion gyda'ch rheolwr llinell yn y lle cyntaf. Fodd bynnag, os nad oes modd datrys y mater drwy'r broses hon mae polisïau eraill i'w dilyn: 'Polisi Chwythu'r Chwiban' a 'Polisi a Gweithdrefn Gwyno' sy'n manylu ar y gweithdrefnau y dylai cyflogeion a chanddynt gwyn neu anghydfod eu dilyn.