Neidio i'r prif gynnwy

Amdanom ni

Ein nod yw cynorthwyo GIG Cymru trwy greu sefydliad cydwasanaethau pwrpasol sydd â hunaniaeth unigryw, sydd:

  • Yn rhannu safonau gweithredu cyffredin yn unol â’r arfer gorau.
  • Yn ddigon mawr i fanteisio ar arbedion maint a phŵer prynu wrth wella ansawdd
  • Yn meddu ar ethos gofal cwsmeriaid rhagorol ac sy’n canolbwyntio ar ansawdd gwasanaethau.

O ganlyniad, byddwn yn gweithredu i gefnogi'r Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau statudol GIG Cymru, fel y gallant, yn eu tro, ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau rheng flaen yn lleol yn fwy effeithiol. Yn ogystal, bydd y sefydliad yn darparu cyngor a chefnogaeth broffesiynol i Lywodraeth Cymru.

docx icon

 

Pwy ydym ni a beth rydym ni’n ei wneud (DOCX,11.79mb)

 

Sicrhau Gwerth, Arloesi a Rhagoriaeth drwy Bartneriaeth

 

 

 

Ein Gwerthoedd Craidd

 

Gweithio gyda'n gilydd

 

Arloesi

 

Gwrando a Dysgu

 

Cymryd Cyfrifoldeb

 

Ein Strwythur

Mae PCGC yn sefydliad cydfuddiannol annibynnol, sy’n eiddo i GIG Cymru ac yn cael ei gyfarwyddo ganddo. Cafodd ei ffurfio ar 1 Ebrill 2011 er mwyn darparu gwasanaethau proffesiynol, technegol a gweinyddol rhagorol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer i bob un o’r Byrddau Iechyd a’r Ymddiriedolaethau yn GIG Cymru.

 

 

pdf icon

 

Strwythur Sefydliadol Partneriaeth Cydwasanaethau Cymru (PDF, 82KB)

 

pdf icon

 

Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru Strategaeth Ddigidol (PDF 7.7 MB)

 

 

Rhannu: