Tîm Cyfathrebu NWSSP sy’n rheoli’r holl ymholiadau gan y cyfryngau yn ogystal â cheisiadau i ffilmio a thynnu lluniau yn ein holl gyfleusterau a’n gwasanaethau.
Ein nod yw ymateb yn gadarnhaol ac yn agored i bob cais gan y cyfryngau sy’n rhesymol. Rydym hefyd yn awyddus i gymryd camau pendant i hyrwyddo gwaith ein staff a gwasanaethau yn y cyfryngau.
Dylid cyfeirio holl ymholiadau’r cyfryngau, o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am – 5pm, at y Tîm Cyfathrebu ar:
Cyfryngau Cymdeithasol
Gallwch bellach ddal i fyny gyda holl newyddion diweddaraf y Bartneriaeth Cydwasanaethau ar Trydar, YouTube ac LinkedIn:
Ceisiadau i dynnu lluniau a ffilmio
Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn derbyn ceisiadau rheolaidd i ffilmio a thynnu lluniau ar ein safle neu gyda’r staff yn eu swydd broffesiynol.
Dylid cyflwyno pob cais yn ysgrifenedig i’r Rheolwr Cyfathrebu drwy
nwssp.communications@wales.nhs.uk i ddechrau. Oni chytunir fel arall, mae’n rhaid i aelod o’r Tîm Cyfathrebu fod yn gwmni i’r criw ffilmio a’r ffotograffwyr drwy’r amser.