Neidio i'r prif gynnwy

Ein Gwasanaethau

Mae darparu gofal rhagorol i gwsmeriaid wrth wraidd ein gwasanaethau i unigolion a chymunedau. Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn ymrwymedig i feithrin ymagwedd gadarnhaol at wasanaethau cwsmeriaid, lle rydym yn ymdrechu i ragori ar ddisgwyliadau ein cwsmeriaid bob tro a chreu amgylchedd lle mae gwasanaethau cwsmeriaid yn elfen greiddiol o sut rydym yn rheoli ac yn darparu’r gwasanaethau hyn.

Audit & Assurance Services Icon Gwasanaethau Archwilio a Sicrwydd 

Mae’n darparu archwilio mewnol dwyieithog, archwilio arbenigol a gwasanaethau ymgynghori i GIG Cymru yn ei gyfanrwydd.

Central Team eBusiness Icon Tîm Canolog e-Fusnes

Fe’i sefydlwyd yn 2004 i sicrhau y mabwysiadir ymagwedd gorfforaethol, strategol ac wedi’i chydgysylltu’n ganolog er mwyn rheoli, cefnogi a gwella nifer o systemau busnes cenedlaethol craidd.

Counter Fraud Service Icon Mae Gwasanaethau Atal Twyll Cymru y GIG

Mae’n arwain y gwaith o adnabod a mynd i’r afael â throseddau economaidd gan gynnwys twyll, llwgrwobrwyo a llygredd yn GIG Cymru.

Digital Workforce Solutions Icon Datrysiadau Gweithlu Digidol

Mae’n darparu datrysiadau dysgu a gweithlu electronig o’r radd flaenaf i GIG Cymru a sector cyhoeddus ehangach Cymru, a gellir cael mynediad drwy’r we a thrwy dechnolegau symudol.

Employment Services Icon Gwasanaethau Cyflogaeth

Yn gyfrifol am ddarparu'r ystod lawn o Wasanaethau Llogi i Ymddeol i GIG Cymru.

Health Courier Services Icon Y Gwasanaeth Negesydd Iechyd

Mae’n cefnogi gwasanaethau rheng flaen ledled Cymru, gan weithio 24 awr y dydd, 365 o ddiwrnodau’r flwyddyn lle bo angen, yn darparu gwasanaethau cymorth logistaidd clinigol hanfodol ar gyfer gofal sylfaenol a gofal heb ei drefnu.

GP Specialty Registrar Icon Cyflogwr Arweiniol

Gan weithio mewn partneriaeth â Deoniaeth Cymru, y darparwyr addysg ar draws y rhaglen arbenigedd meddygon teulu, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yw’r prif gyflogwr ar gyfer Cofrestryddion Meddyg Teulu Arbenigol.

Legal & Risk Services Icon Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg

Mae’n darparu cyngor cyfreithiol a chynrychiolaeth ar gyfer yr holl gyrff iechyd yng Nghymru.

Medical Examiner Gwasanaeth Archwilio Meddygol

Bydd y Gwasanaeth Archwilio Meddygol yn craffu’n annibynnol ar yr holl farwolaethau na chânt eu cyfeirio'n uniongyrchol at Wasanaeth y Crwner.

Primary Care Services Icon Gwasanaethau Gofal Sylfaenol

Mae’n darparu ystod eang o wasanaethau i fyrddau iechyd a Llywodraeth Cymru, ac ar eu rhan.

Procurement Icon Gwasanaethau Caffael

Mae’n darparu gwasanaeth Caffael i Dalu llawn i bob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth ledled GIG Cymru, gan gynnwys swyddogaethau Cyrchu, Prynu, y Gadwyn Gyflenwi a Chyfrifon Taladwy.

Specialist Estates Services Icon Gwasanaethau Ystadau Arbenigol

Mae’n rhoi cyngor a chymorth i Lywodraeth Cymru a sefydliadau GIG Cymru ar ystod eang o faterion yn ymwneud â’r amgylchedd mewn cyfleusterau gofal iechyd.

Student Awards Services Icon Gwasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr

Mae’n gweithredu Cynlluniau Bwrsariaeth GIG Cymru, sy’n darparu cyllid ar gyfer myfyrwyr gofal iechyd ar gyrsiau yng Nghymru a ariennir gan y GIG.

Surgical Materials Testing Laboratory Icon Labordy Profi Deunyddiau Llawfeddygol

Mae’n profi dyfeisiau meddygol a gwasanaethau technegol mewn perthynas â dyfeisiau meddygol i GIG Cymru.

Wales Infected Blood Support Scheme Icon Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru

Mae’n rhoi cymorth i bobl sydd wedi’u heintio â Hepatitis C a/neu HIV yn dilyn triniaeth â gwaed, cynhyrchion gwaed neu feinwe gan y GIG yn yr 1980au a’r 1990au.

Welsh Risk Pool Icon Cronfa Risg Cymru

Mae’n rhoi cymorth i fyrddau iechyd yng Nghymru ac mae ei bwyslais ar wella diogelwch a chanlyniadau cleifion.

Accounts payable Icon Cyfrifon Taladwy

Mae'n darparu gwasanaeth canolog i GIG Cymru o ran talu anfonebau cyflenwyr fel rhan o broses Caffael i Dalu (P2P) GIG Cymru.

Rhannu: