Neidio i'r prif gynnwy

Safonau'r Gymraeg

 

Rydym yn gweithredu yn unol â Safonau’r Gymraeg.

Mae'r dyletswyddau sy'n dod o'r safonau yn golygu na ddylai sefydliadau drin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, ynghyd â hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg, gan ei gwneud yn haws i bobl ei defnyddio yn eu bywyd bob dydd.

Ein nod yw galluogi pawb sy’n derbyn neu’n defnyddio ein gwasanaethau i wneud hynny drwy gyfrwng y Gymraeg neu Saesneg, yn ôl dewis personol ac i annog defnyddwyr a darparwyr eraill i ddefnyddio a hyrwyddo'r Gymraeg o fewn y sector iechyd.

 

Beth yw Safonau’r Gymraeg?

O 30 Mai 2019 mae’n ofynnol i Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg.  Mae Safonau’r Gymraeg bellach wedi disodli’r Cynllun Iaith Gymraeg blaenorol.  Mae’r Safonau’n nodi’n glir ein rhwymedigaethau i ddarparu ein gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg i’r safon uchaf.

Mae'n ofynnol i ni gydymffurfio â Hysbysiad Cydymffurfio Safonau'r Gymraeg ar gyfer Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre. 

 

Gellir gweld copi o'r Safonau drwy glicio ar y ddolen hon:

160714-wls-health-regulations-cy.pdf (llyw.cymru)

 

Gellir gweld copi o’r Hysbysiad Cydymffurfio yma:

20181130hysbysiad-cydymffurfio44-ymddiriedolaeth-gig-prifysgol-felindre.pdf (comisiynyddygymraeg.cymru)

 

O dan y Safonau, ni ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Mae pawb sy’n gweithio yma yn gyfrifol am gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg.  Mae pob aelod o staff yn gyfarwydd â gofynion y Safonau trwy ein rhaglen ymsefydlu a hyfforddiant ymwybyddiaeth.  Cefnogir staff hefyd i ddysgu sgiliau Cymraeg sylfaenol ac uwchsgilio sgiliau Cymraeg presennol.  Gwneir staff yn ymwybodol o'r Safonau sy'n berthnasol i'w rolau.

Mae ein Cyfarwyddwyr, Penaethiaid Gwasanaethau, Rheolwyr a Goruchwylwyr yn gyfrifol am sicrhau bod eu timau’n cydymffurfio â’r Safonau a sicrhau bod eu timau’n fedrus ac yn brofiadol wrth ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Rydym yn cydnabod gwerth sgiliau Cymraeg ymhlith ein staff.  Mae'n arf cyfathrebu pwysig i allu darparu gwasanaethau o'r ansawdd uchaf.

 

Nod Safonau’r Gymraeg

Mae’r dyletswyddau sy’n deillio o’r safonau yn golygu na ddylai sefydliadau drin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, ynghyd â hyrwyddo a hwyluso defnyddio’r Gymraeg, gan ei gwneud yn haws i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd, os dyna yw eu dewis.

Pan fyddwch yn derbyn gwasanaeth gan sefydliad cyhoeddus yng Nghymru, dylech allu derbyn eich gohebiaeth yn Gymraeg. Wrth ffonio sefydliad, dylai'r derbynnydd ateb eich galwad yn ddwyieithog. Os ydych wedi gwneud ymholiad neu gŵyn i sefydliad, a’ch bod wedi gwneud hynny yn Gymraeg, ni ddylai eich dewis iaith arwain at unrhyw oedi. Dylai'r sefydliad hefyd weithredu polisïau a chadw cofnodion yn y Gymraeg.

I grynhoi, mae'r Safonau:

  • yn ei gwneud yn glir i sefydliadau beth yw eu dyletswyddau mewn perthynas â’r Gymraeg
  • yn ei gwneud hi’n gliriach i siaradwyr Cymraeg ynglŷn â’r gwasanaethau y gallant ddisgwyl eu derbyn yn Gymraeg
  • yn gwneud gwasanaethau Cymraeg yn fwy gwydn, cyson ac yn gwella eu hansawdd.

 

Uned y Gymraeg ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

Mae Uned y Gymraeg ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn hyrwyddo ac yn annog defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle ac yn cefnogi’r sefydliad i weithredu a darparu gwasanaethau’n ddwyieithog. Mae ein gwaith yn cynnwys cefnogi adrannau i ddatblygu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg, darparu gwasanaeth cyfieithu, cynghori a threfnu cyrsiau Cymraeg i staff a sicrhau bod y sefydliad yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg.

Mae gennym brosesau monitro, perfformiad a llywodraethu mewnol ar waith er mwyn sicrhau bod y Gymraeg ar flaen y gad wrth gynllunio a darparu gwasanaethau.

 

Gweithio gyda sefydliadau eraill

Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn gweithio gyda sefydliadau eraill i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg a sicrhau bod gennym amgylchedd gwaith dwyieithog, gwasanaeth Cymraeg cryf a chadarn sydd ar gael i staff eraill y GIG, Defnyddwyr Gwasanaeth, Cleifion, Rhanddeiliaid a’r Cyhoedd yn gyffredinol.

Mae gennym Uned y Gymraeg ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru er mwyn gynnig cymorth, arweiniad a chyngor i’n cyfarwyddiaethau a’n timau cyflenwi gwasanaethau yn ogystal â thîm o gyfieithwyr.  Rydym yn cynnig gwasanaethau cymorth cyfieithu i nifer o Sefydliadau GIG yng Nghymru a Lloegr.

Er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg yn y gweithle a chynnig pob cyfle i staff integreiddio â’r iaith, rydym hefyd yn gweithio gyda’r Mentrau Iaith (fforymau Cymraeg lleol), y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, Prifysgolion, Colegau ac Ysgolion yn ein dalgylchoedd a sefydliadau gwirfoddol eraill sy’n cynnig cyfleoedd i’n staff gymdeithasu a chael mynediad i’r Gymraeg a diwylliant Cymru yn eu cymunedau lleol.

Ar lefel fwy strategol, rydym yn gweithio gyda Byrddau Iechyd, Ymddiriedolaethau, Awdurdodau Iechyd Arbenigol, Llywodraeth Cymru a Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg i sicrhau ein bod yn parhau i ddatblygu a chynnal lefel uchel o wasanaethau Cymraeg.

 

Adroddiadau

 

pdf icon

 

Adroddiad Perfformiad Blynyddol ar gyfer 2022/23 (pdf, 255KB)

Rhannu: