Neidio i'r prif gynnwy

Llwybrau Dechrau Gyrfa

Banner image displaying the NWSSP logo and on the left an image of two women looking at a computer screen together. 

 

Llwybrau Dechrau Gyrfa yn PCGC

 

Ydych chi'n chwilio am yrfa yn y GIG?
Hoffech chi ddeall mwy am y cyfleoedd a'r llwybrau gyrfa sydd ar gael i chi?

Rydym yn gyffrous ac yn falch o rannu’r holl gyfleoedd dechrau gyrfa sydd ar gael ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru gyda chi. Ar y dudalen hon, gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth a sut y gallech ymuno â ni!

Mae llwybrau dechrau gyrfa yn gyfleoedd sydd wedi'u cynllunio i gefnogi pobl yn ein cymuned i rôl lle gallant ddatblygu eu sgiliau, eu profiad a'u gwybodaeth yn y gweithle. Mae'r rolau hyn fel arfer yn rhai dros dro a gallent fod yn gyfleoedd gwirfoddol neu’n gyflogedig. Yn dibynnu ar y rôl a’r llwybr dechrau gyrfa, gallai'r cyfle fod yn amser llawn, yn rhan-amser, neu gynnwys dysgu mewn prifysgol neu goleg lleol.

 

Pa gyfleoedd dechrau gyrfa y mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn eu cynnig?

Ar hyn o bryd mae PCGC yn cefnogi:

  • Lleoliadau Gwaith – Di-dâl a Thymor Byr
  • Prentisiaethau
  • Rhaglen Rhwydwaith 75
  • Cynlluniau i Raddedigion

Lleoliadau Gwaith

Beth yw lleoliad gwaith? Mae lleoliad gwaith yn gyfnod byr o waith dan…

Prentisiaethau

Beth yw Prentisiaeth? Mae prentisiaid yn elwa trwy ddysgu sgiliau…

Rhwydwaith 75

Beth yw Rhwydwaith 75? Mae cynllun Rhwydwaith 75 yn rhoi cyfle i…

Cynlluniau i Raddedigion

Y Cynllun Rheoli i Raddedigion Cynllun dwy flynedd dan arweiniad…

Rhannu: