Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr

 

Mae Gwasanaeth Dyfarniadau Myfyrwyr yn gyfrifol am weithredu Cynllun Bwrsariaeth GIG Cymru, sy’n rhoi arian i fyfyrwyr gofal iechyd ar gyrsiau yng Nghymru a ariennir gan y GIG a myfyrwyr o Gymru sy’n astudio cyrsiau meddygol a deintyddol yn y DU.

 

Myfyrwyr newydd

Os ydych chi'n bwriadu astudio cwrs nyrsio / bydwreigiaeth / gweithiwr proffesiynol perthynol i iechyd (AHP), bydd gofyn i chi ymrwymo i weithio yng Nghymru am gyfnod ar ôl cwblhau eich astudiaethau.

Ar gyfer cwrs 3 blynedd, mae'n ymrwymiad 2 flynedd, ac ar gyfer cwrs 2 flynedd, mae'n 18 mis. Darllenwch ein telerau ac amodau sydd i'w gweld ar y dudalen Gwneud Cais am Fwrsariaeth cyn cychwyn eich cais.

Os ydych chi'n bwriadu mynd yn feddyg neu'n ddeintydd, nid yw'n ofynnol i chi ymrwymo i'r telerau ac amodau hyn.

Dilynwch y broses isod i gychwyn eich Taith Myfyriwr o'r fwrsariaeth i gyflogaeth.

 

Myfyrwyr Sy'n Parhau

Os ydych yn derbyn cyllid bwrsariaeth y GIG ar hyn o bryd ac yn dymuno cael mynediad i’ch cyfrif Bwrsariaeth, cliciwch ar y system olrhain isod neu os hoffech ailymgeisio ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud Cais am Fwrsariaeth’ ar daith y myfyriwr isod.

 

Taith y myfyriwr

 

student journey graphic

  1. Penderfynu ar eich gradd gofal iechyd a'ch Prifysgol
  2. Gwneud cais am fwrsariaeth
  3. Gwneud cais am gyllid myfyrwyr (studentfinancewales.co.uk)
  4. Chwilio a gwneud cais am swydd