Mae gwybodaeth am sut i gofrestru ar gyfer cyfleoedd contract a manylion am y mathau o nwyddau a gwasanaethau a gaffaelir gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ar ran byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau ledled GIG Cymru i'w gweld isod.
Caffael yw'r broses o brynu cyflenwadau, gwasanaethau a gwaith gan sefydliad allanol arall neu, yn nhermau lleygwyr, “siopa”. Gall caffael amrywio o gontractio ar gyfer gwasanaeth mawr, i brynu eitemau ar gyfer y swyddfa.
Fodd bynnag, mae'r broses gaffael yn broses ffurfiol sy'n cael ei llywodraethu gan ddeddfwriaeth allweddol yr UE a'r DU. Mae'r rheolau hyn yn nodi sut y dylai prynwyr nwyddau a gwasanaethau ymrwymo i a rheoli contractau gyda chyflenwyr. Mae caffael ffurfiol bob amser yn arwain at gytundeb cytundebol rhwng y prynwr (yn ein hachos ni, sefydliad cyhoeddus – y GIG) a'r cyflenwr, sy'n gyfreithiol rwymol ar y ddwy ochr.
Nod sylfaenol caffael cyhoeddus yw sicrhau cystadleuaeth, sy'n cael ei hystyried yn ffactor allweddol wrth gyflawni dau amcan, sef atebolrwydd wrth wario arian cyhoeddus a thryloywder wrth wneud penderfyniadau. Yn sail i'r amcanion hynny mae sawl Cyfarwyddeb Ewropeaidd sy'n ceisio dileu rhwystrau i fasnach a hyrwyddo marchnad sengl, yn benodol trwy sicrhau nad oes gwahaniaethu ar sail cenedligrwydd.
Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) yn ddarparwr gwasanaethau caffael i sefydliadau GIG Cymru ledled Cymru. Mae gennym dîm sy'n arbenigo mewn cyrchu cynhyrchion a gwasanaethau Gofal Iechyd yn ogystal â Gwasanaethau Corfforaethol gan gynnwys Swyddfeydd a TG, Ystadau a Chyfleusterau a Chyfalaf.
Mae'n ofynnol dilyn proses gaffael sy'n cydymffurfio, yn unol â Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015.
Mae GIG Cymru yn hysbysebu cyfleoedd tendro yn electronig ar Sell2Wales (www.sell2wales.gov.uk) ac yn Official Journal of the European Union (OJEU), y gellir ei weld ar wefan Tenders Electronic Daily (TED).
Mae'r dolenni uchod yn egluro sut a ble i gofrestru i sicrhau nad yw cyfleoedd yn cael eu colli.