Neidio i'r prif gynnwy

Trawsnewid Mynediad at Feddyginiaethau

Rhaglen GIG Cymru yw Trawsnewid Mynediad at Feddyginiaethau (TRAMS) ar gyfer sefydlu Gwasanaeth Technegol Fferyllol a rennir i Gymru. Cymeradwyodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y buddsoddiad arfaethedig o £67m yn y gwasanaeth newydd mewn datganiad ar 17 Mawrth 2021.

Bydd TRAMS yn trawsnewid sut mae rhai o'r meddyginiaethau mwyaf arloesol sy’n achub bywydau, gan gynnwys therapïau canser, gwrthfiotigau mewnwythiennol a maeth drwy’r gwythiennau yn cael eu paratoi.

Bydd y rhaglen Trawsnewid Mynediad at Feddyginiaethau bum mlynedd nid yn unig yn canolbwyntio ar y gwasanaethau fferyllol technegol ei hun, ond bydd hefyd yn fuddsoddiad mewn pobl, yn cynnig cyfle ar gyfer arweinyddiaeth broffesiynol  ac arloesi mewn triniaethau fferyllol.

Mae paratoi meddyginiaethau’n ddi-haint a elwir hefyd yn wasanaethau aseptig yn faes arbenigol o fewn gwasanaethau fferyllol ysbytai. Mae Gwasanaethau Aseptig yn gyfrifol am ddatblygu, paratoi a chyflenwi meddyginiaethau unigryw sy’n canolbwyntio ar y claf, gan gynnwys paratoi therapi gwrth-ganser systemig y gellir ei chwistrellu, paratoi maeth drwy’r gwythiennau ar gyfer pobl y mae eu cyflwr meddygol yn golygu nad ydynt yn gallu amsugno maeth o’r bwyd y maent yn ei fwyta, a radio-fferylliaeth a ddefnyddir i roi diagnosis a thriniaeth canser.

Gyda’r datblygiadau mewn meddyginiaethau sy’n arwain at well canlyniadau i gleifion, mae’r galw am y gwasanaethau hanfodol hyn wedi bod yn cynyddu.  Ar hyn o bryd, mae llawer o'r gwaith hwn yn cael ei wneud mewn ysbytai ledled Cymru. 

Er mwyn ehangu gwasanaethau, bydd Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn datblygu achosion busnes ar gyfer creu tri chyfleuster rhanbarthol integredig newydd yn y Gogledd, y De-orllewin a’r De-ddwyrain.

Bydd y tri chyfleuster rhanbarthol yn cynyddu gallu GIG Cymru i baratoi’r meddyginiaethau y mae pobl eu hangen, a byddant yn galluogi’r GIG i fanteisio ar ddatblygiadau technolegol ac awtomatiaeth sy’n gwella diogelwch i gleifion ac yn rhoi mwy o amser i nyrsys ofalu am gleifion.   

Yn ogystal â’r cyfleusterau newydd, bydd y buddsoddiad yn cefnogi trawsnewid y gweithlu, gan greu swyddi newydd a rhoi hwb i gynhyrchiant.  Bydd y cyllid hefyd yn creu cyfleoedd i’r GIG a phrifysgolion gydweithio i gefnogi treialon clinigol ac ymchwil i ddatblygu cynhyrchion arloesol sy’n galluogi rhoi meddyginiaeth yng nghartrefi pobl, neu’n agosach at eu cartrefi, yn hytrach nag yn yr ysbyty. 

Mae'r cam hwn yn gam enfawr o ran cyrraedd y nodau a bennir yn y ddogfen weledigaeth ddeng mlynedd, Fferylliaeth: Creu Cymru Iachach. Roedd y weledigaeth ddeng mlynedd hyd at 2030 yn nodi cynllun ar gyfer sicrhau cydweithredu agosach rhwng gwasanaethau fferyllol mewn ysbytai, gofal cymunedol a gofal sylfaenol er mwyn sicrhau bod cleifion yn elwa ar wasanaethau a ddarperir yn lleol. Mae symud ffocws timau ysbytai i ymateb i newidiadau o ran darparu gofal a thrawsnewid mynediad at feddyginiaethau wedi bod yn rhan allweddol o'r weledigaeth hon ar gyfer gofal fferyllol yng Nghymru.

Mae'r gwasanaeth newydd yn rhan o PCGC, wedi’i lywodraethu gan Bwyllgor Y Bartneriaeth Cydwasanaethau.

Mae PCGC yn disgwyl i’r gwasanaeth ddechrau cyflenwi meddyginiaeth ymhen tua 2-3 blynedd, gyda gweithrediad llawn wedi’i gwblhau ar ôl 5 mlynedd.

Rhannu: