Ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i'n cwsmeriaid ac i'n gweledigaeth o 'Sicrhau Gwerth, Arloesedd a Rhagoriaeth drwy Bartneriaeth'.
Mae mwyafrif y bobl yn fodlon gyda'r gwasanaeth y maent yn ei dderbyn ond weithiau efallai na fydd pethau'n mynd cystal â'r disgwyl. Pan fydd hynny’n digwydd, mae angen inni edrych ar yr hyn a aeth o’i le er mwyn inni geisio unioni pethau, dysgu gwersi a gwella gwasanaethau.
Rydym bob amser yn anelu at wella ein gwasanaethau, datblygu mewnwelediad cwsmeriaid a hyrwyddo diwylliant sy'n canolbwyntio ar y cwsmer. Felly, os byddwch yn cael unrhyw broblemau, yn anfodlon â gwasanaeth PCGC, neu’n dymuno mynegi pryder, rhowch wybod i staff PCGC cyn gynted â phosibl. Gallwch hefyd gysylltu â ni i rannu eich pryderon trwy unrhyw un o’r dulliau isod:
Dylid codi pryderon a chwynion gweithwyr yn y lle cyntaf gyda'ch rheolwr llinell. Fodd bynnag, os na ellir mynd i'r afael â'r pryder drwy'r broses hon, mae polisïau ar waith i'w cefnogi, gan gynnwys y 'Polisi Chwythu'r Chwiban' a'r 'Polisi a Gweithdrefn Cwyno' sy'n manylu ar weithdrefnau ar gyfer gweithwyr sydd â chwynion neu gwynion.
Yn amodol ar Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb (EQIA) ac Asesiad Effaith Integredig (IIA)