Llywodraethu Corfforaethol yw’r term a ddefnyddir yn y GIG i olygu’r system ar gyfer cyfarwyddo a rheoli sefydliad, ar ei lefel uchaf, er mwyn cyflawni ei amcanion a bodloni’r safonau angenrheidiol o ran atebolrwydd, uniondeb a bod yn agored.
Trefniadau Llywodraethu Cydwasanaethau GIG Cymru
Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn cael ei chynnal a’i llywodraethu gan Reoliadau Cydwasanaethau Ymddiriedolaeth GIG Felindre 2012(2012/1261(w.156)) a Phwyllgor y Bartneriaeth Cydwasanaethau, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r deg Bwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG Felindre a Llywodraeth Cymru ac sy’n gyfrifol am fonitro llywodraethu a pherfformiad. Mae’r safonau sy’n ofynnol ar gyfer llywodraethu effeithiol wedi’u hamlinellu yng ngorchmynion sefydlog a fframwaith gwerthoedd a safonau ymddygiad y Pwyllgor, a pholisïau cysylltiedig. Mae deg corff y GIG (y Partneriaid) yng Nghymru yn cymryd rhan ym Mhwyllgor y Bartneriaeth Cydwasanaethau ac yn gyfrifol ar y cyd am ddarparu’r gwasanaethau trwy Gytundeb Cynnal rhwng y Partneriaid. Cadeirydd annibynnol y pwyllgor yw Mrs Margaret Foster ac mae’r pwyllgor yn cyfarfod 6 gwaith y flwyddyn.
Datganiad Llywodraethu Blynyddol
Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn llunio Datganiad Llywodraethu Blynyddol sy’n dangos yn gyhoeddus sut mae adnoddau’n cael eu rheoli ac i ba raddau y mae’n cydymffurfio â’i chod llywodraethu ei hun, gan gynnwys sut rydym ni wedi monitro a gwerthuso effeithiolrwydd ein trefniadau llywodraethu. Mae’r datganiad yn dod â’r holl ddatgeliadau sy’n ymwneud â llywodraethu, risg a rheoli at ei gilydd mewn un man.
Datganiad Llywodraethu Blynyddol.
Safonau ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Cymru: Gwneud yn Dda, Gwneud yn Well
Mae’r sefydliad yn defnyddio Gwneud yn Dda, Gwneud yn Well: Safonau ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Cymru fel ei fframwaith ar gyfer cael sicrwydd ynglŷn â’i allu i gyflawni ei nodau a’i amcanion ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd diogel o ansawdd uchel. Mae hyn yn golygu hunanasesu perfformiad yn erbyn y safonau ar draws pob gweithgaredd ac ar bob lefel yn y sefydliad drwyddo draw.
e-Lawlyfr Llywodraethu GIG Cymru
Trefniadau Archwilio a Sicrwydd
Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn cael cyngor archwilio gan ei Wasanaethau Archwilio a Sicrwydd, sy’n cynnal astudiaethau Gwerth am Arian ac yn arfarnu systemau rheolaeth fewnol yn annibynnol, a hefyd gan yr Archwilwyr Allanol (Swyddfa Archwilio Cymru) sy’n darparu asesiad annibynnol o stiwardiaeth ariannol y sefydliad.
Mae’r broses Trefniadau Archwilio a Sicrwydd yn cael ei goruchwylio gan Bwyllgor Archwilio Ymddiriedolaeth GIG Felindre ar gyfer Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, y mae ei gylch gorchwyl wedi’i amlinellu yng Ngorchmynion Sefydlog y sefydliad.
Cadeirydd pwyllgor annibynnol Pwyllgor Archwilio Ymddiriedolaeth GIG Felindre ar gyfer Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yw Martin Veale, ac fe’i cynorthwyir gan ddau aelod arall annibynnol: Janette Pickles a Gareth Jones. Mae’r pwyllgor yn cyfarfod 5 gwaith y flwyddyn.