Neidio i'r prif gynnwy

Rheoli cais am fwrsariaeth

Statws eich cais am fwrsariaeth

Gallwch wirio statws eich cais drwy'r cyfrif BOSS gan ddefnyddio'ch enw defnyddiwr a'ch cyfrinair.

Dyma'r ddolen i gael mynediad at y system.

 

Hysbysiad o'ch dyfarniad bwrsariaeth

Gallwch wirio am hysbysiad o'ch dyfarniad bwrsariaeth drwy system BOSS. Mae'n cymryd 20 diwrnod gwaith i asesu cais ar ôl derbyn yr wybodaeth gywir a ddarperir hyd at yr hysbysiad o'r dyfarniad. Dim ond os bydd yr holl wybodaeth gywir wedi'i derbyn y bydd hysbysiad o ddyfarniad yn dangos. Bydd unrhyw ymholiadau a godir ar yr wybodaeth a gyflwynir yn gofyn am 20 diwrnod ychwanegol ar ôl derbyn gwybodaeth newydd/wedi'i diweddaru. 

Dyma'r ddolen i gael mynediad at y system.

 

Cywiriadau/Diwygiadau i'ch cais am fwrsariaeth

Gallwch anfon e-bost at y tîm i roi gwybod iddynt am y camgymeriad. Bydd aelod o'r tîm yn ymateb i'ch ymholiad o fewn 5 diwrnod gwaith. Y cyfeiriad e-bost ar gyfer y tîm yw:

abm.sas@wales.nhs.uk

 

Optio allan o'r cynllun bwrsariaeth

Gallwch anfon e-bost at y tîm i roi gwybod iddynt eich bod yn dymuno optio allan o Gynllun Bwrsariaeth y GIG cyn pen 10 wythnos ar ôl dyddiad dechrau eich cwrs. Fodd bynnag, os oes mwy na 10 wythnos wedi mynd heibio ers dyddiad dechrau eich cwrs, bydd AaGIC (Addysg a Gwella Iechyd Cymru) yn adolygu eich cais ac yn gwneud y penderfyniad hwn. AaGIC sy'n gweinyddu'r holl gynllun a nhw sy'n gyfrifol am dalu ffioedd. Dylid gwneud pob ymholiad i optio allan drwy ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod yn y lle cyntaf.

abm.sas@wales.nhs.uk

Rhannu: