Gellir ychwanegu derbynebau trwy ddewis yr eicon rheoli derbynebau. Yna gallwch bori'ch gyriannau am y ddogfen sydd wedi'i chadw. Gellir dod o hyd i ragor o gymorth trwy ddewis yr Eicon Cymorth a Chefnogaeth o fewn treuliau.
Nid yw Swyddog Cymeradwyo ar gael oherwydd absenoldeb salwch/gwyliau blynyddol
Dylai rheolwr ddirprwyo mynediad at ei gyfrif er mwyn i eraill allu cymeradwyo yn ei absenoldeb.
Pan na neilltuwyd mynediad dirprwyedig, gellir gwneud cais i ailgyfeirio hawliad.
Bydd ‘Claim Redirection’ yn newid dros dro yn unig ac ni fydd yn newid y cymeradwywr yn barhaol.
Unwaith y byddwch wedi mewngofnodi i'r porth, cliciwch ar ‘log a call’, a dewiswch 'Redirect cliams for approval - temporary change’ o'r rhestr 'Pre-Defined'
Rhaid i bob cais gael ei gyflwyno gan swyddog awdurdodedig.
Treuliau a gyflwynwyd i'r swyddog cymeradwyo anghywir
Os yw'ch treuliau wedi'u cyflwyno i'r swyddog cymeradwyo anghywir, bydd angen i chi ddadgyflwyno'ch hawliad a’i ailgyflwyno unwaith y bydd y cymeradwywr wedi'i newid neu y gellir gofyn am ailgyfeirio hawliadau (‘Redirect claims’).
Unwaith y byddwch wedi mewngofnodi i'r porth cliciwch ar ‘log a call’, a dewiswch ''Re-direct claims for approval' o'r rhestr 'Pre-Defined', yna gallwch ychwanegu gwybodaeth y cyflogai yn y blwch manylion.
Sylwch fod yn rhaid i’r cymeradwywr awdurdodedig gyflwyno pob cais ac nid y gweithiwr.
Cynnwys Mynediad Dirprwyedig at Gyfrif E-Dreuliau
I gynnwys mynediad dirprwyedig at Gyfrif E-Dreuliau dilynwch y camau hyn:
Sylwch mai dim ond deiliad y cyfrif all gyflawni'r weithred hon.