Pan fo rhaid newid safle gwaith unigolyn (dros dro neu’n barhaol) oherwydd newid sefydliadol, gellir hawlio'r gwahaniaeth mewn milltiroedd am hyd at 4 blynedd yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Sylwch y gall milltiroedd fod yn destun treth ac yswiriant gwladol. Gweler Polisi Proses Newid Sefydliadol (OCP) Cymru Gyfan.
Ceir dolenni i gyfrifiannell cyfandaliad ychwanegol ar ein tudalen fewnrwyd o dan 'Useful Documents'
Mae milltiroedd ychwanegol yn daladwy pan fydd newid dros dro neu barhaol i'ch safle gwaith. Mae hyn fel arfer yn digwydd ar y cyd â Newid Sefydliadol.
Gellir cyflwyno cais am filltiroedd ychwanegol trwy ein porth ActionPoint.
Unwaith y byddwch wedi mewngofnodi i'r porth cliciwch ar ‘log a call’ a dewiswch 'Excess Travel - Option 1 Monthly' neu 'Excess Travel - Option 2 Lump Sum' o'r rhestr 'Pre-Defined'. Yna, gallwch ychwanegu gwybodaeth y cyflogai yn y blwch manylion.
Rhaid i bob cais gael ei gyflwyno gan y swyddog cymeradwyo.
Dim ond ar ôl i'ch cyfrif gael ei greu y gellir hawlio Milltiroedd Ychwanegol.