Bydd angen i chi newid manylion eich cyfeiriad cartref ar eich Cofnod Cyflogres gan ddefnyddio Hunan-wasanaeth i Gyflogeion.
Gellir cyflwyno cais trwy ein porth ActionPoint
Unwaith y byddwch wedi mewngofnodi i'r porth cliciwch ar ‘log a call’ a dewiswch 'Change of approver' o'r rhestr 'Pre-Defined'. Yna, gallwch ychwanegu gwybodaeth y cyflogai yn y blwch manylion.
Sylwch mai dim ond rheolwr llinell all gyflawni'r swyddogaeth hon.
Gellir diweddaru newid safle gwaith yn uniongyrchol yn ESR trwy 'Hunan Wasanaeth y Rheolwr' neu gallwch gyflwyno cais trwy ein porth ActionPoint
Unwaith y byddwch wedi mewngofnodi i'r porth cliciwch ar ‘log a call’ a dewiswch 'Change of approver' o'r rhestr 'Pre-Defined'. Yna, gallwch ychwanegu gwybodaeth y cyflogai yn y blwch manylion.
Sylwch mai dim ond rheolwr llinell all gyflawni'r swyddogaeth hon.
Os ydych wedi Ymddeol a Dychwelyd, bydd eich cyfrif treuliau gwreiddiol yn cael ei archifo a bydd angen i chi ofyn am gyfrif newydd sy'n gysylltiedig â'ch rhif cyflogres newydd.
Unwaith y byddwch wedi mewngofnodi i'r porth, cliciwch ar ‘log a call’, a dewis 'Request for expense account' o'r rhestr 'Pre-Defined', gallwch ychwanegu gwybodaeth y cyflogai yn y blwch manylion.
Gallwch ychwanegu manylion eich car drwy 'My Details', ‘Add Vehicle'. Gallwch ddod o hyd i ragor o gymorth a chefnogaeth drwy'r eicon cymorth a chefnogaeth ar y wefan. Dim ond unwaith y bydd angen i chi ychwanegu eich cerbyd. Fel arfer bydd cerbydau'n cael eu hactifadu o fewn 2 ddiwrnod gwaith. Byddwch yn derbyn e-bost wedi'i gynhyrchu gan system i'ch hysbysu unwaith y bydd eich car wedi'i actifadu.