Neidio i'r prif gynnwy

Treuliau a Threth

Diffiniad o Fuddiannau a Delir drwy’r Gyflogres

Mae hwn yn newid i'r ffordd y rhoddir gwybod i CThEM am dreth a delir ar fuddiannau (aberthu cyflog a char prydles).  Nid oes newid i faint o dreth y byddwch chi’n ei thalu ar y buddion hyn o’i gymharu â’r system flaenorol. Bydd y dreth rydych chi'n ei thalu bellach yn cael ei chyfrifo ar y buddiant mewn nwyddau a'i dangos ar eich slip cyflog bob mis, yn hytrach na thrwy addasiad i'ch cod treth. Mae hyn yn golygu y byddwch yn talu treth mewn ‘amser real’ ac ni fydd buddiannau trwy’r gyflogres yn ymddangos ar eich datganiad buddiannau P11D mwyach. Ni fyddwch yn cael buddiannau P11D mwyach

 

Ymholiadau P11D

Newid manylion ar P11D

Sicrhewch eich bod yn gwirio'ch manylion a gedwir ar gyfer eich cyfrif treth personol. Am ragor o wybodaeth ar sut i wneud hyn, dewiswch 'P11D - How is my tax calculated' o'r rhestr.

Os ydych wedi gwirio’r manylion ar gyfer eich cyfrif treth personol a’ch bod yn dal i gael problem, llenwch yr wybodaeth isod.

Unwaith y byddwch wedi mewngofnodi i'r porth cliciwch ar ‘log a call’, a dewiswch ''P11D - copy' o'r rhestr 'Pre-Defined'.

 

Diffiniad o P11D

Anfonir ffurflen P11D i CThEM yn amlinellu gwerth unrhyw dreuliau trethadwy cysylltiedig â gwaith a budd-daliadau trethadwy a gawsoch dros y flwyddyn dreth (6 Ebrill-5 Ebrill). Dim ond budd-daliadau neu dreuliau nad ydynt eisoes wedi'u cynnwys yn eich cyflog yw'r rhain. Os yw'r mathau hyn o dreuliau yn berthnasol i chi, byddwn yn darparu copi o'r ffurflen P11D i chi ei wirio a'i gadw. Os nad ydych yn derbyn unrhyw dreuliau neu fudd-daliadau trethadwy ni fydd P11D yn cael ei gyhoeddi.

 

  • Enghraifft o eitemau wedi'u cynnwys
  • Ceir Cwmni (prydles ac aberthu cyflog)
  • Milltiroedd Car Cwmni at ddefnydd preifat
  • Lwfansau milltiroedd car preifat uwchlaw trothwy CThEM
  • Taliadau am ddefnyddio ffonau cartref
  • Llety Preswyl
  • Asedau a drosglwyddwyd (aberthu cyflog, technoleg a ffôn cartref)

 

Datganiadau P11D 

Nid yw datganiadau P11D yn cael eu cyhoeddi mwyach. Mae'r holl dreuliau a ad-delir trwy gyflog yn cael eu trethu yn y ffynhonnell ac adlewyrchir hyn mewn slipiau cyflog bob mis. Yr unig eithriad i hyn yw pan fo unigolyn yn derbyn llety am ddim. Bydd ffurflenni P11D ar gyfer llety yn cael eu cynhyrchu gan eich tîm cyflogres rhanbarthol.

 

Gofyn am gopi o P11D

Gallwch gyflwyno cais trwy ein porth ActionPoint

Unwaith y byddwch wedi mewngofnodi i'r porth cliciwch ar ‘log a call’, a dewiswch ''P11D - copy' o'r rhestr 'Pre-Defined'.

 

Mynediad at eich Cyfrif Treth Personol

Gallwch weld a rheoli eich manylion yn CThEM drwy ddefnyddio/cofrestru ar gyfer cyfrif treth bersonol CThEM. Gweler y ddolen isod.  Mae hwn ar gael ar-lein a thrwy ap.

 

Gallwch ddefnyddio eich cyfrif treth personol i wneud y canlynol:

  • gwirio eich amcangyfrif Treth Incwm a’ch cod treth
  • llenwi, anfon a gweld ffurflen dreth bersonol
  • hawlio ad-daliad treth
  • gwirio eich incwm o gyflogaeth yn y 5 mlynedd flaenorol
  • gwirio faint o Dreth Incwm a dalwyd gennych yn y 5 mlynedd flaenorol
  • gwirio a rheoli eich credydau treth
  • gwirio eich Pensiwn y Wladwriaeth
  • olrhain ffurflenni treth rydych chi wedi'u cyflwyno ar-lein
  • gwirio neu ddiweddaru eich Lwfans Priodasol
  • dweud wrth CThEM am newid enw neu gyfeiriad
  • gwirio neu ddiweddaru buddion a gewch o'r gwaith, er enghraifft manylion car cwmni ac yswiriant meddygol
  • dod o hyd i’ch Rhif Yswiriant Gwladol
Rhannu: