Neidio i'r prif gynnwy

Ymholiadau ynghylch Dyletswydd Gofal a Cherbydau

 

Dyletswydd Gofal

Diffiniad o Ddyletswydd Gofal

Mae’r Ddyletswydd Gofal yn gyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau bod cerbyd aelod o staff, y mae disgwyl iddo wneud teithiau busnes, yn addas at y diben, yn cael ei gynnal a’i gadw’n iawn, a bod gan y gyrrwr y trwyddedau priodol i yrru’r cerbyd.

 Mynediad at ragor o wybodaeth am Ddyletswydd Gofal

 

Uwchlwytho Dogfennau Dyletswydd Gofal i'ch Cyfrif E-Dreuliau

Cyn uwchlwytho'r dogfennau, bydd angen i chi sicrhau eu bod yn cael eu sganio/cadw i'ch cyfrifiadur/dyfais.  O sgrin ‘Home’ eich cyfrif treuliau dewiswch ‘My Details, My Duty of Care Documents, My Vehicle Documents’.  Ar y sgrin hon, dewiswch 'New Vehicle Document'.  Yna, dewiswch y 'Document type' o'r gwymplen a phwyswch ‘save’.  Pan fydd yr holl flychau ar y sgrin hon wedi'u cwblhau pwyswch y botwm 'BROWSE'. Bydd hyn yn eich galluogi i chwilio/dewis y ddogfen berthnasol ar eich cyfrifiadur/dyfais. Pwyswch arbed.  Bydd hyn yn anfon hysbysiad awtomatig at y tîm treuliau i adolygu eich dogfennau. Byddwch yn derbyn hysbysiad yn ôl wrth i bob dogfen gael ei chymeradwyo.

 

Ymholiadau ynghylch Cerbydau

Tystysgrif Yswiriant

Bydd angen i chi uwchlwytho Tystysgrif Yswiriant - y mae’n rhaid iddi ddangos bod gennych yswiriant at ddefnydd busnes. Os oes rhaid ichi ychwanegu yswiriant busnes ar gyfer Dyletswydd Gofal nid ydych yn gymwys i wneud hawliadau cyn y dyddiad yr ychwanegwyd yr yswiriant busnes.

Pan nad yw unigolyn wedi'i yswirio ar gyfer defnydd busnes, ni chaniateir hawlio milltiroedd sy’n gysylltiedig â busnes.

Rhaid i unrhyw geisiadau i ddiystyru hyn gael eu hawdurdodi gan Gyfarwyddwr y Gweithlu/Cyfarwyddwr Cyllid y Sefydliad y mae’r cyflogai yn gweithio iddo.

 

Ymholiadau ynghylch MOT

Gwneir chwiliadau MOT yn awtomatig pan fyddwch yn ychwanegu hawliad milltiroedd

 

Ymholiadau ynghylch Treth Car

Gwneir chwiliadau Treth Cerbyd yn awtomatig pan fyddwch yn ychwanegu hawliad milltiroedd

Rhannu: