Neidio i'r prif gynnwy

Creu Cyfrif

 

Mynediad at gyfrif E-Dreuliau

Nid oes angen i chi gyflwyno ffurflen gais i greu cyfrif treuliau. Bydd eich cyfrif yn cael ei actifadu unwaith y bydd eich cofnod cyflogres wedi'i greu a'r wybodaeth wedi'i throsglwyddo i ni. Noder, na fydd eich cyfrif yn barod i'w ddefnyddio ar ddiwrnod cyntaf eich cyflogaeth. Bydd yn cael ei weithredu tua diwedd y mis y bydd eich cyflogaeth yn dechrau.  Byddwch yn derbyn e-bost i'ch cyfeiriad e-bost @Wales.NHS.UK. Cofiwch wirio eich post sothach os na fyddwch yn derbyn yr e-bost. 

 

Mynediad at eich cyfrif am y tro cyntaf

I gael mynediad at y system am y tro cyntaf, ewch i www.sel-expenses.com a chliciwch ar ‘forgotten details’. Pan fyddwch chi'n cael mynediad at eich cyfrif am y tro cyntaf - gwnewch yn siŵr bod eich manylion yn gywir e.e. safle gweithio, o ba ysbyty rydych chi'n gweithio ohono ar bob cylchdro, cyfeiriad ac ati.

 

Os ydych chi'n gweithio i fwy nag un cyflogwr neu os ydych chi wedi gweithio i Fwrdd Iechyd arall yng Nghymru o'r blaen, efallai y byddwch chi'n derbyn neges ‘error’. Os bydd hyn yn digwydd, ymatebwch i'r e-bost hwn. Yna, gallwn anfon e-bost ailosod cyfrinair â llaw.

 

Pan fyddwch ar leoliad, mae eich lleoliad wedi'i ryngwynebu o Intrepid (system Rheoli Hyfforddiant AaGIC) i ESR (system y gyflogres) ac yna i’r system dreuliau. Pan nad yw lleoliad eich lleoliad yn dangos yn gywir, rhaid diweddaru hyn yn Intrepid. Bydd angen i chi gysylltu â HEIW.Schoolsupport@wales.nhs.uk. Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi Adleoli a Threuliau (‘Relocation & Expenses’) yn nheitl eich e-bost. AWGRYM: gwiriwch fod y manylion yn gywir cyn i chi gyflwyno unrhyw hawliadau. Bydd hyn yn arbed amser i chi yn y tymor hir.

 

 Bydd eich cyfrif yn cael ei greu i'ch galluogi i hawlio treuliau busnes, treuliau astudio a chostau cludiant adleoli yn unig. Os oes angen i chi hawlio am rent ychwanegol/ymrwymiadau parhaus/milltiroedd ychwanegol/tocynnau teithio ychwanegol, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais.  Gellir cwblhau y ffurflen gais cyn i chi dderbyn eich e-bost actifadu cyfrif.

 

Hawl i hawlio o'r Cartref i'r Pencadlys

  • Dim ond Staff Meddygol - Ymgynghorwyr a staff ar raddau MC41 ac MC46 sydd â hawl i hawlio treuliau o'r Cartref i'r Pencadlys.
Rhannu: