Neidio i'r prif gynnwy

Ymholiadau ynghylch Dyletswydd Gofal a Cherbydau

 

Dyletswydd Gofal

Diffiniad o Ddyletswydd Gofal

Rhaid i bob cerbyd a ddefnyddir at ddibenion busnes/astudio/ar alwad gael ei drethu, bod â MOT cyfredol ac yswiriant digonol at ddefnydd Busnes. Rhaid i bob hawlydd gael trwydded yrru ddilys.  Nid oes rhaid ichi uwchlwytho dogfennau treth/MOT/Yswiriant ar gyfer cerbydau prydles neu aberthu cyflog gan y bydd y rhain yn cael eu huwchlwytho'n awtomatig.

Nid oes rhaid ichi uwchlwytho dogfennau yswiriant/trwydded yrru i hawlio adleoli neu filltiroedd ychwanegol.

Bydd gwiriadau blynyddol yn cael eu cynnal ar bob cerbyd i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion y ddyletswydd gofal.  Bydd nodyn atgoffa system awtomatig yn cael ei anfon at hawlwyr 7 diwrnod cyn y dyddiad dod i ben.

Pan fo angen gwiriadau dyletswydd gofal, ni ellir nodi treuliau milltiroedd nes bod yr holl wybodaeth berthnasol wedi'i huwchlwytho a'i hadolygu fel rhan o'r Ddeddfwriaeth Dyletswydd Gofal.

Rhannu: