Mae’r Bwrdd Caffael Seiliedig Ar Dystiolaeth (EBPB – Grŵp Strategaeth Dyfeisiau Meddygol a Nwyddau Traul Cymru Gyfan gynt – AWMDCSG) yn cynnwys gweithwyr proffesiynol o fewn GIG Cymru a chyrff ymchwil Cymru sy’n gwneud argymhellion a chanllawiau ar gyfer caffael technolegau meddygol ar sail gwerth a thystiolaeth ar gyfer GIG Cymru. Mae’n cynghori Pwyllgor y Cydwasanaethau, yr Uned Cyflenwi Ariannol a Grŵp Effeithlonrwydd, Gwerth Gofal Iechyd a Gwella Llywodraeth Cymru.
Mae’r Bwrdd, a gafodd ei gyfarfod cyntaf ym mis Tachwedd 2015, yn cynorthwyo gyda’r agenda rhesymoli a safoni yn unol ag egwyddorion gofal iechyd darbodus, ac mae athroniaeth “Unwaith i Gymru” yn sail iddo. Bydd hefyd yn asesu a ddylai GIG Cymru gael gwared ar ddyfeisiau/technolegau os bernir eu bod yn amhriodol neu’n wastraffus.
Mae’r EBPB yn cael ei gadeirio gan Dr Stephen Edwards, Cyfarwyddwr Meddygol Cynorthwyol ac Ymgynghorydd ym maes Anestheteg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac mae’r aelodau’n dod o bob rhan o GIG Cymru a’r byd academaidd. Mae’r Bwrdd yn cael ei letya gan PCGC (Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru) sydd hefyd yn darparu’r ysgrifenyddiaeth ar gyfer y Grŵp.
Am ragor o wybodaeth, gweler: