Cysylltwch â ni i roi gwybod am gynnyrch diffygiol
Gallwch gysylltu â ni drwy e-bost:
Gallwch hefyd lenwi ffurflen adrodd, gan ei dychwelyd trwy e-bost i'r cyfeiriad uchod
Cynhyrchion y gallwn eu profi
Beth fydd SMTL yn ei wneud
Pan fo'n bosibl ac yn angenrheidiol, bydd SMTL yn:
- Archwilio’r ddyfais yn y labordy
- Profi’r ddyfais a samplau nas defnyddiwyd
- Casglu gwybodaeth bellach gan y defnyddiwr/gohebydd
Yna byddwn yn:
- Ysgrifennu adroddiad yn crynhoi ein canfyddiadau gan gynnwys sylwadau gan y defnyddiwr.
- Anfon adroddiad at y gwneuthurwr, yr MHRA AIC, Caffael PCGC, a'r sefydliad adrodd.
- Cysylltu â’r gwneuthurwr am ateb.
- Asesu ansawdd yr ateb a phenderfynu a allwn gau'r ffeil.
- Cysylltu â gweithgynhyrchwyr sydd wedi anfon ymatebion anaddas.
- Copïo’r ymateb terfynol i’r MHRA, PCGC a’r sefydliad adrodd.
- Defnyddir yr wybodaeth o’r broses hon hefyd i helpu i lywio prosesau contractio Caffael ar gyfer GIG Cymru, yn ogystal â chyfrannu at broses ehangach y DU ar gyfer adrodd am ddigwyddiadau dyfeisiau meddygol.