Mae darparu gofal rhagorol i gwsmeriaid wrth wraidd ein gwasanaethau i unigolion a chymunedau. Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn ymrwymedig i feithrin ymagwedd gadarnhaol at wasanaethau cwsmeriaid, lle rydym yn ymdrechu i ragori ar ddisgwyliadau ein cwsmeriaid bob tro a chreu amgylchedd lle mae gwasanaethau cwsmeriaid yn elfen greiddiol o sut rydym yn rheoli ac yn darparu’r gwasanaethau hyn.
Gwasanaethau Archwilio a Sicrwydd
Mae’n darparu archwilio mewnol dwyieithog, archwilio arbenigol a gwasanaethau ymgynghori i GIG Cymru yn ei gyfanrwydd.
Tîm Canolog e-Fusnes
Fe’i sefydlwyd yn 2004 i sicrhau y mabwysiadir ymagwedd gorfforaethol, strategol ac wedi’i chydgysylltu’n ganolog er mwyn rheoli, cefnogi a gwella nifer o systemau busnes cenedlaethol craidd.
Mae Gwasanaethau Atal Twyll Cymru y GIG
Mae’n arwain y gwaith o adnabod a mynd i’r afael â throseddau economaidd gan gynnwys twyll, llwgrwobrwyo a llygredd yn GIG Cymru.
Datrysiadau Gweithlu Digidol
Mae’n darparu datrysiadau dysgu a gweithlu electronig o’r radd flaenaf i GIG Cymru a sector cyhoeddus ehangach Cymru, a gellir cael mynediad drwy’r we a thrwy dechnolegau symudol.
Gwasanaethau Cyflogaeth
Yn gyfrifol am ddarparu'r ystod lawn o Wasanaethau Llogi i Ymddeol i GIG Cymru.
Y Gwasanaeth Negesydd Iechyd
Mae’n cefnogi gwasanaethau rheng flaen ledled Cymru, gan weithio 24 awr y dydd, 365 o ddiwrnodau’r flwyddyn lle bo angen, yn darparu gwasanaethau cymorth logistaidd clinigol hanfodol ar gyfer gofal sylfaenol a gofal heb ei drefnu.
Cyflogwr Arweiniol
Gan weithio mewn partneriaeth â Deoniaeth Cymru, y darparwyr addysg ar draws y rhaglen arbenigedd meddygon teulu, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yw’r prif gyflogwr ar gyfer Cofrestryddion Meddyg Teulu Arbenigol.
Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg
Mae’n darparu cyngor cyfreithiol a chynrychiolaeth ar gyfer yr holl gyrff iechyd yng Nghymru.
Gwasanaeth Archwilio Meddygol
Bydd y Gwasanaeth Archwilio Meddygol yn craffu’n annibynnol ar yr holl farwolaethau na chânt eu cyfeirio'n uniongyrchol at Wasanaeth y Crwner.
Gwasanaethau Gofal Sylfaenol
Mae’n darparu ystod eang o wasanaethau i fyrddau iechyd a Llywodraeth Cymru, ac ar eu rhan.
Gwasanaethau Caffael
Mae’n darparu gwasanaeth Caffael i Dalu llawn i bob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth ledled GIG Cymru, gan gynnwys swyddogaethau Cyrchu, Prynu, y Gadwyn Gyflenwi a Chyfrifon Taladwy.
Gwasanaethau Ystadau Arbenigol
Mae’n rhoi cyngor a chymorth i Lywodraeth Cymru a sefydliadau GIG Cymru ar ystod eang o faterion yn ymwneud â’r amgylchedd mewn cyfleusterau gofal iechyd.
Gwasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr
Mae’n gweithredu Cynlluniau Bwrsariaeth GIG Cymru, sy’n darparu cyllid ar gyfer myfyrwyr gofal iechyd ar gyrsiau yng Nghymru a ariennir gan y GIG.
Labordy Profi Deunyddiau Llawfeddygol
Mae’n profi dyfeisiau meddygol a gwasanaethau technegol mewn perthynas â dyfeisiau meddygol i GIG Cymru.
Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru
Mae’n rhoi cymorth i bobl sydd wedi’u heintio â Hepatitis C a/neu HIV yn dilyn triniaeth â gwaed, cynhyrchion gwaed neu feinwe gan y GIG yn yr 1980au a’r 1990au.
Cronfa Risg Cymru
Mae’n rhoi cymorth i fyrddau iechyd yng Nghymru ac mae ei bwyslais ar wella diogelwch a chanlyniadau cleifion.
Cyfrifon Taladwy
Mae'n darparu gwasanaeth canolog i GIG Cymru o ran talu anfonebau cyflenwyr fel rhan o broses Caffael i Dalu (P2P) GIG Cymru.