Er mai cyrff unigol y GIG sy'n gyfrifol am ddarparu Archwilwyr Meddygol, mae'n bwysig i hygrededd y Gwasanaeth eu bod yn gallu craffu’n ANNIBYNNOL ar farwolaeth, p'un a yw'r marwolaethau hynny'n digwydd mewn ysbytai acíwt neu'r tu allan.
O ganlyniad, bydd y Gwasanaeth yng Nghymru yn cael ei ddarparu gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, yn annibynnol ar fyrddau iechyd unigol.
Er mwyn sicrhau'r lefel uchaf o graffu annibynnol ar achos marwolaeth a'r amgylchiadau sy'n ymwneud â marwolaeth, bydd yr holl Archwilwyr Meddygol a Swyddogion Archwilio Meddygol yng Nghymru yn cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. Yn gyffredinol, ni fydd Archwilwyr Meddygol yn cymryd rhan wrth graffu ar farwolaethau yn yr ardal y maent yn gweithio ynddi.
Wrth i’r Gwasanaeth ddatblygu dros amser, mae hyn yn golygu nid mewn amgylchedd clinigol lle maent yn gweithio i ddechrau, h.y. ysbyty neu bractis meddyg teulu, ac yn y pen draw nid yn y sefydliad iechyd y maent yn ymarfer ynddo, e.e. bwrdd iechyd.
Mae’r Model ar gyfer Gwasanaethu i’w weld isod: