Mae tîm e-Alluogi yn gweithio gyda phob tîm yng Ngwasanaethau Caffael fel bod modd gwneud y gorau o dechnoleg er mwyn gwella gwasanaethau ac effeithiolrwydd ac awtomeiddio ymhellach, a hynny wrth ddarparu addysg ac hyfforddiant am systemau / prosesau i’n cwsmeriaid.
Dyma’r prif dimau yn adran e-Alluogi:
Mae’r tîm rheoli catalogau’r systemau yn parhau i gynnig Catalog Cymru Gyfan ac mae wedi cyrraedd y targed o gatalogio 90% o gynnwys. Mae’n sicrhau bod y catalog wedi ei lwytho a’i fod yn gyfredol ac yn gywir a’i fod ar gael yn brydlon, ac mae’n helpu Tîm Rheoli Caffael PCGC i ddylanwadu ar wariant nad yw ar gyflogau ac i sicrhau cydymffurfiaeth lawn y contractau mae’n eu negodi.
Mae’r tîm gwybodaeth busnes yn sicrhau y caiff adroddiadau strategol eu llunio ymhob un o wasanaethau caffael, a hynny trwy ddatblygu cyson ac adrodd safonol gan ddefnyddio dau declyn adrodd busnes pwysig, sef Discover (Cam 1) a Qlikview (Cam 2).
Gwaith y Tîm Gwella Gwasanaethau yw safoni dulliau o weithio ym mhrosesau Prynu i Dalu a nodi meysydd y mae angen eu datblygu er mwyn sicrhau bod yr Adran Gaffael yn adran o safon fyd-eang.
Mae’r tîm Cymorth Gwasanaeth yn bwynt cyswllt hanfodol i ddefnyddwyr modiwlau caffael Oracle, ac mae’r tîm yn datrys ymholiadau trwy addasu’r system a defnyddio gwybodaeth arbenigol.
Rydym hefyd yn darparu hyfforddiant ar Oracle yn yr ystafell ddosbarth i’r Byrddau Iechyd. Rydym wrthi’n datblygu teclynnau e-ddysgu yn unol â’n strategaeth hyfforddiant.