Mae’r gadwyn gyflenwi yn gyfrifol am archebu, storio a dosbarthu nwyddau traul mewn warysau rhanbarthol ym Ninbych (y Gogledd a’r Canolbarth), Pen-y-Bont ar Ogwr (y De a’r Gorllewin) a Chwmbrân - De a De ddwyrain Cymru.
Mae’r tîm hefyd yn gyfrifol am dderbynebu a dosbarthu nwyddau i brif safleoedd ysbytai a’r gwasanaethau rheoli deunyddiau ar yr wardiau ac mewn adrannau, a hynny trwy ddefnyddio dyfeisiau llaw sy’n casglu data yn awtomatig.
Mae parhau i wneud y gorau o dechnoleg yn flaenoriaeth gan y tîm, er mwyn gwella effeithlonrwydd a darparu gwasanaeth di-dor.