Mae Daniela yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg.
Cymhwysodd Daniela yn Gyfreithiwr yn 2005, enillodd ei gradd LLB yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Cymru Abertawe, cyn symud i Gaerdydd i ddilyn Cwrs Ymarfer y Gyfraith.
Mae Daniela yn aelod o Bwyllgor HPMA Cymru ac yn trefnu digwyddiadau hyfforddi amrywiol ar gyfer gweithlu AD GIG Cymru (y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol).
Ym mis Mai 2016, cafodd Daniela ei hethol yn gynrychiolydd Cymru ar gyfer Cymdeithas y Cyfreithwyr Cyflogaeth.
Fel rhan o'r rôl hon, cynorthwyodd Daniela gyda chynllun cymorth i’r Tribiwnlys Cyflogaeth (ELIPS) yn Nhribiwnlys Cyflogaeth Cymru, sy'n darparu cymorth am ddim i ymgyfreithwyr heb gynrychiolaeth (hawlwyr ac ymatebwyr) yn y Tribiwnlys Cyflogaeth.
Mae Daniela wedi dysgu’r modiwl Cyfraith Cyflogaeth ar y cwrs Rheoli Adnoddau Dynol ym Mhrifysgol De Cymru. Mae hi’n fentor hefyd ar gynllun mentora Coleg y Cymoedd.
Mae Daniela yn teimlo'n freintiedig i weithio fel rhan o GIG Cymru. Mae’n credu’n gryf mewn cydweithio i gyflawni’r canlyniadau gorau i gydweithwyr a chleifion.